We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

Epilepsi: cyflwyniad

Dyma grynodeb o’r prif ffeithiau am epilepsi.
I gael gwybodaeth fanylach, dilynwch y ddolen ar ddiwedd pob adran.

Cyflwyniad

Ynglŷn ag epilepsi
Achosion epilepsi

Ynglŷn â thrawiadau epileptig

Mathau o drawiadau
Trawiadau ffocal (rhannol)
Trawiadau cyffredinol
Pethau sy’n achosi trawiadau

Diagnosis a thriniaeth o epilepsi

Diagnosis
Triniaeth
Meddyginiaeth ar gyfer epilepsi
Talu am eich meddyginiaeth epilepsi

Byw gydag epilepsi

Dod i delerau ag epilepsi
Y deddfau cydraddoldeb
Cof
Iselder
Risgiau o gael epilepsi
Diogelwch
Lleihau’r risg o drawiadau
Gweithgareddau hamdden
Alcohol a chyffuriau anghyfreithlon
Gyrru
Addysg
Gwaith
Yswiriant
Cymorth sydd ar gael

Cymorth cyntaf ar gyfer trawiadau

Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth hon yn rhoi rhai ffeithiau sylfaenol i chi am fyw gydag epilepsi. Mae’n edrych ar beth yw epilepsi, sut mae’n cael ei drin a sut i ddelio â thrawiadau. Mae hefyd yn edrych ar bethau fel mynd allan, gyrru a gweithio.

Ynglŷn ag epilepsi

Yn y Deyrnas Unedig, mae yna dros 600,000 o bobl gydag epilepsi.

Gall unrhyw un ohonom gael trawiad epileptig unigol. Ond os oes gennych epilepsi, mae’n golygu eich bod wedi cael mwy nag un trawiad epileptig. A gallech gael rhagor yn y dyfodol.

Bydd tua phump o bob 100 o bobl yn cael trawiad epileptig ar ryw adeg yn eu bywydau. O’r pump o bobl hyn, bydd tua phedwar yn mynd ymlaen i ddatblygu epilepsi.

Mae sawl math o epilepsi. Mae rhai mathau o epilepsi yn dechrau pan fyddwch yn ifanc iawn, ac eraill yn hwyrach. Mae rhai mathau yn parhau am gyfnod byr a gall mathau eraill barhau am weddill eich oes.

Achosion epilepsi

Mewn tua chwech o bob 10 o bobl, nid yw meddygon yn gwybod beth sydd wedi achosi eu hepilepsi. I nifer o’r bobl hyn, mae’n rhan o sut maent wedi eu creu sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o gael trawiad.

Mae achos amlwg dros yr epilepsi i rai. Un achos posibl yw niwed i’r ymennydd. Mae nifer bethau all achosi niwed i’r ymennydd. Ymhlith y rhain mae:

  • genedigaeth anodd
  • haint ar yr ymennydd, megis meningitis
  • strôc
  • anaf difrifol i’r ymennydd.

Does dim rhaid bod unrhyw niwed i’ch ymennydd er mwyn i chi gael epilepsi. Gallech fod â chyflwr meddygol lle mae’n eithaf cyffredin i gael epilepsi hefyd. Rhai o’r cyflyrau hyn yw sglerosis clorog a pharlys yr ymennydd. Mewn rhai pobl gydag anabledd dysgu, gall achos eu hanabledd dysgu hefyd achosi eu hepilepsi.

Ynglŷn â thrawiadau epileptig

Mae gweithgaredd epileptig yn digwydd yn ein hymennydd o hyd. Bydd trawiad yn digwydd pan fydd ffrwydrad sydyn o weithgaredd trydanol dwys yn yr ymennydd. Yn y wybodaeth hon, gelwir gweithgaredd trydanol dwys yn ‘weithgaredd epileptig’.

Mathau o drawiadau

Mae sawl gwahanol fath o drawiad. Gellir eu dosbarthu yn ôl ble yn yr ymennydd mae’r gweithgaredd epileptig yn cychwyn.

Trawiadau ffocal (rhannol)

Yn y trawiadau hyn, mae gweithgaredd epileptig yn dechrau mewn rhan o’ch ymennydd yn unig. Efallai y byddwch yn dal yn ymwybodol yn ystod y math hwn o drawiad. Neu efallai na fyddwch yn gwybod beth sy’n digwydd o’ch cwmpas. Efallai y bydd rhannau o’ch corff yn symud ac na fyddwch yn gallu ei atal. Neu efallai y byddwch yn profi ias neu deimladau anarferol. Weithiau, efallai na fydd pobl eraill yn ymwybodol eich bod yn cael trawiad.

Gall trawiadau ffocal fod yn fyr iawn neu barhau am funudau. Weithiau bydd gweithgaredd epileptig yn cychwyn fel trawiad ffocal, yn lledaenu i weddill eich ymennydd ac yn dod yn drawiad cyffredinol.

Trawiadau cyffredinol

Mae’r trawiadau hyn yn ymwneud â gweithgaredd epileptig yn y ddau hanner o’ch ymennydd. Rydych yn colli ymwybyddiaeth yn ystod y math hwn o drawiad, er y gall hefyd weithiau fod mor gryno fel na fydd neb yn sylwi. Weithiau gall barhau am sawl munud. Efallai y bydd y cyhyrau yn eich corff yn cyffio ac/neu grynu. Efallai y byddwch yn syrthio.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar drawiadau.

Pethau sy’n achosi trawiadau

Mae rhai pethau yn gwneud trawiadau yn fwy tebygol ar gyfer rhai pobl gydag epilepsi. Yn aml fe gyfeirir at y rhain fel ‘ysgogwyr’. Mae ysgogwyr yn bethau fel straen, diffyg cwsg ac yfed gormod o alcohol. Mae rhai yn dweud eu bod yn cael mwy o drawiadau os byddant yn colli prydau bwyd. Mae peidio â chymryd eich meddyginiaeth epilepsi yn ysgogydd cyffredin arall. Mae goleuadau sy’n fflachio neu grynu yn ysgogi trawiadau i nifer fechan o bobl ag epilepsi.

Mae osgoi ysgogiadau yn lleihau’r risg o gael trawiad.

Diagnosis a thriniaeth o epilepsi

Diagnosis

Un o’r rhannau pwysicaf o gael y driniaeth briodol ar gyfer eich trawiad yw cael y diagnosis cywir. Mae meddygon yn seilio eu diagnosis ar beth a ddywedir wrthynt am eich trawiadau.

Mae’n ddefnyddiol iawn i gadw dyddiadur manwl o’ch trawiadau. Gallwch ei ddangos i’ch meddyg. Mae hefyd yn ddefnyddiol i rywun sydd wedi eich gweld yn cael trawiad i fynd gyda chi i weld eich meddyg. Gall roi gwybod i’r meddyg ddigwyddodd.

Os yw’ch meddyg yn meddwl y gall fod gennych epilepsi, dylent drefnu i chi weld meddyg sy’n arbenigo mewn epilepsi. Fel arfer bydd hyn yn niwrolegydd (ar gyfer oedolion) neu bediatrydd (ar gyfer plant). Mae’n debyg y bydd y meddyg hwn yn awgrymu eich bod yn cael profion. Gallai’r profion hyn gynnwys profion gwaed, EEG (recordiad o’ch ymennydd), a sgan o’r ymennydd. Gall y profion hyn helpu’r meddyg i benderfynu pa fath o epilepsi sydd gennych a beth sy'n ei achosi. Ond nid oes un prawf unigol all brofi os oes gennych epilepsi neu beidio.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar ddiagnosis.

Triniaeth

Y brif driniaeth ar gyfer epilepsi yw meddyginiaeth epilepsi. Efallai y clywch y meddyginiaethau hyn yn cael eu galw’n gyffuriau gwrth epileptig neu AEDs Nid ydynt yn gwella epilepsi, ond maent yn helpu atal neu leihau’r nifer o drawiadau. Mae tua 40 o bob 100 o bobl gydag epilepsi yn gweld fod trawiadau yn stopio gyda’r feddyginiaeth epilepsi cyntaf a ddefnyddiont.

Mae yna hefyd ddulliau eraill i drin epilepsi.

Mae’r rhain yn cynnwys gwahanol fathau o lawdriniaethau epilepsi, a diet arbennig a ddefnyddir weithiau ar gyfer plant gydag epilepsi – y diet cetogenig

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar driniaeth.

Meddyginiaeth ar gyfer epilepsi

Mae sawl gwahanol feddyginiaeth ar gyfer epilepsi. Bydd eich arbenigwr epilepsi yn argymell y gorau i chi. Dylent roi gwybod i chi sut mae’n gweithio a beth yw ei sgìl effeithiau posibl. Mae’n gyffredin i ddechrau ar ddos isel o’r feddyginiaeth a’i gynyddu fesul ychydig, nes ei fod yn ddos sy’n mynd i weithio orau i chi. Mae’r cynnydd graddol hwn yn helpu lleihau unrhyw sgìl effeithiau.

Mae pawb yn wahanol, a bydd rhai yn teimlo nad ydynt yn ymdopi’n dda gyda meddyginiaeth benodol, hyd yn oed ar ddos isel. Os bydd hyn yn digwydd i chi, gallech chi a’ch meddyg weld os byddai gwahanol feddyginiaeth yn well i chi.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar feddyginiaethau epilepsi.

Talu am eich meddyginiaeth epilepsi

Yn y Deyrnas Unedig, os oes gennych epilepsi, does dim rhaid i chi dalu am eich meddyginiaeth epilepsi. Os ydych chi’n byw yn Lloegr, bydd angen i chi gael tystysgrif eithriad gan eich meddyg. Mae pob presgripsiwn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am ddim.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am bresgripsiynau am ddim.

Byw gydag epilepsi

Dod i delerau ag epilepsi

Os mai newydd gael gwybod bod gennych epilepsi ydych chi, efallai y byddwch angen amser i ddod i delerau â hyn. Gall cael epilepsi newid pethau. Mae’n debygol na fyddwch yn gallu gyrru am beth amser. A bydd rhaid i chi feddwl am rai o’r pethau a wnewch, i sicrhau’ch bod mor ddiogel â phosibl. Ond gyda’r driniaeth briodol, gallech fod yn un o’r saith o bob 10 o bobl allai gael rheolaeth lwyr o’u trawiadau.

Efallai yr hoffech siarad â phobl eraill gydag epilepsi. Gallai hyn fod mewn cyfarfod lleol o Epilepsy Action. Neu gallech fod yn aelod o’n cymuned ar-lein, forum4e. Mae hyn yn le diogel a chyfeillgar i siarad ynglŷn â’ch epilepsi. Ewch i forum4e.

Os ydych wir yn ei chael yn anodd dod i delerau â’ch epilepsi, neu os yw’n eich gwneud yn ofidus neu bryderus, siaradwch â’ch meddyg.

Y deddfau cydraddoldeb

Yn y Deyrnas Unedig mae yna gyfreithiau sy’n dweud fod gan bawb hawl i gael eu trin yn gyfartal yn y gwaith neu wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae’r Ddeddf cydraddoldeb yn cwmpasu pobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn cwmpasu pobl yng Ngogledd Iwerddon.

Mae cyfreithiau cydraddoldeb yno i’ch diogelu os oes gennych epilepsi, hyd yn oed os nad ydych yn cael trawiadau. Does dim gwahaniaeth os ydych yn cymryd meddyginiaeth epilepsi neu beidio. Ac maent yn eich diogelu os oedd gennych epilepsi yn y gorffennol.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar gyfreithiau cydraddoldeb.

Cof

Mae cael trafferth cofio pethau yn ymddangos i fod yn broblem gyffredin i bob gydag epilepsi. Gall trawiadau epileptig effeithio ar y cof. Os oes niwed i’r ymennydd sy’n achosi’r epilepsi, gall hyn hefyd achosi problemau gyda’r cof. A gall rhai meddyginiaethau epilepsi effeithio ar y cof.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am y cof.

Iselder

Mae iselder yn gyffredin ymysg pobl gydag epilepsi. Gall fod sawl rheswm dros iselder. Weithiau mae’n gysylltiedig ag epilepsi neu feddyginiaethau epilepsi. Os ydych newydd gael gwybod bod gennych epilepsi, efallai y byddwch yn gorfod newid pethau am eich bywyd nad ydych eisiau newid. Neu efallai y bydd pobl eraill yn eich trin yn wahanol oherwydd eich epilepsi. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn dioddef o iselder, siaradwch â’ch meddyg gan y gellir trin iselder.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am iselder.

Risgiau o gael epilepsi

Mae nifer o bobl gydag epilepsi yn byw bywydau llawn. Mae eu trawiadau yn fyr ac nid ydynt yn achosi problemau difrifol iddynt. Gallant fwrw ymlaen â bywyd. Ond mae'n bwysig gwybod fod yna risg fechan o farwolaeth o ganlyniad i epilepsi. Gall pobl farw o ganlyniad i drawiad. Neu gallant farw o ganlyniad i ddamwain sy’n digwydd oherwydd trawiad. Weithiau, bydd yr hyn sy’n achosi epilepsi ar fai. Er enghraifft, efallai y bydd gan rywun niwed i’w ymennydd. Mewn rhai achosion, does dim rheswm pam fod rhywun sydd ag epilepsi wedi marw. Mewn achos o’r fath, fe’i gelwir yn farwolaeth sydyn annisgwyl mewn epilepsi (SUDEP).

Gall cymryd eich meddyginiaeth epilepsi yn rheolaidd, a siarad â’ch meddyg am unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch eich epilepsi, helpu lleihau’r risgiau. Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am sut i leihau’r risgiau o SUDEP.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am SUDEP.

Diogelwch

Mae’n syniad da i feddwl am beth allwch chi wneud i wneud bywyd gydag epilepsi mor ddiogel â phosibl. Oherwydd bod risg i’r rhan fwyaf o bethau, mae’n amhosibl byw bywyd heb unrhyw risg. Ond fel arfer mae’n bosibl lleihau’r risgiau. Weithiau does dim ond angen cymryd ambell gam ychwanegol i wneud gweithgaredd yn fwy diogel.

Dim ond chi all benderfynu sut ydych chi’n byw eich bywyd. Ond os na reolir eich epilepsi - hyd yn oed os mai dim ond un trawiad y flwyddyn fyddwch chi’n cael - bydd angen i chi feddwl yn ofalus am risg. Er enghraifft, byddai cael trawiad yn y bath yn creu perygl o foddi. Gallwch leihau’r risg hwn trwy gymryd cawod yn lle bath.

Os ydych chi’n meddwl fod yna bethau y gallwch wneud i sicrhau fod eich cartref yn fwy diogel os cewch drawiad, efallai y bydd gennych hawl i help. Bydd eich swyddfa gwaith cymdeithasol lleol yn gallu dweud mwy.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am ddiogelwch.

Lleihau’r risg o drawiadau

Un ffordd dda o wneud bywyd yn fwy diogel yw gwneud popeth posibl i osgoi trawiadau.

Dyma sut i gadw trawiadau i isafswm.

  • Os ydych chi’n gwybod fod yna bethau sy’n achosi eich trawiadau, ceisiwch eu hosgoi.
  • Dysgwch sut i ddelio â straen, pan na allwch ei osgoi o gwbl.
  • Ceisiwch gael patrwm cysgu rheolaidd.
  • Peidiwch ag anghofio cymryd eich meddyginiaeth epilepsi.
  • Peidiwch byth â mynd yn brin o feddyginiaeth epilepsi.

Gweithgareddau hamdden

Os oes yna bethau rydych yn mwynhau eu gwneud yn eich amser hamdden, fel arfer ni ddylai epilepsi’ch stopio. Os byddwch yn cael trawiadau, efallai y bydd angen i chi gymryd camau diogelwch ychwanegol. Er enghraifft, os ewch i nofio, ewch â rhywun gyda chi sy’n gwybod beth i’w wneud os byddwch yn cael trawiad yn y dŵr.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden.

Alcohol a chyffuriau anghyfreithlon

Mae rhai pobl gydag epilepsi yn yfed alcohol a rhai sydd ddim. Chi sydd i benderfynu a ydych am yfed alcohol. Ond cofiwch i rai y gall alcohol wneud trawiadau yn fwy tebygol.

Does dim rheolaeth dros beth sy’n mynd i mewn i gyffuriau anghyfreithlon. Gallant fod yn beryglus a gallant ysgogi trawiadau.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am alcohol.

Gyrru

Mae yna gyfreithiau ynghylch gyrru os ydych wedi cael trawiad unigol, neu os oes gennych epilepsi. Efallai y bydd rhaid i chi stopio gyrru am gyfnod. Mae’r cyfreithiau hyn yn bodoli i sicrhau bod holl ddefnyddwyr y ffordd mor ddiogel â phosibl.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am yrru.

Addysg

Dylech gael yr un dewis o ysgol neu goleg ag unrhyw fyfyriwr arall. Mae addysg wedi ei gwmpasu gan ddeddfau cydraddoldeb, sy’n golygu na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich epilepsi. Dylech hefyd gael mynediad at gefnogaeth atodol yn yr ysgol neu goleg os ydych ei angen.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am addysg.

Gwaith

Mae pob swydd, ac eithrio’r lluoedd arfog yn agored i bobl ag epilepsi. Efallai y bydd rhai swyddi na allwch wneud os yw’ch trawiadau yn golygu y byddech chi neu eraill dan risg. Er enghraifft, swyddog yr heddlu, swyddog tân a gweithio ar uchder.

Mae cyfreithiau cydraddoldeb yn golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i rywun eich trin yn annheg yn y gwaith oherwydd eich epilepsi.

Os na allwch yrru oherwydd eich epilepsi, efallai y byddwch yn ei chael yn anodd mynd i’r gwaith. Os na allwch ddefnyddio'r bws neu drên, efallai y gallai’r cynllun Mynediad at Waith helpu gyda chostau teithiau tacsi.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am waith.

Yswiriant

Os ydych chi’n cymryd yswiriant, efallai y gofynnir cwestiynau i chi ynglŷn â’ch iechyd. Os felly, bydd angen i chi fod yn onest ynglŷn â’ch epilepsi. Os nad ydych, efallai na fyddwch wedi’ch yswirio’n llawn. Mae nifer o reolau arbennig ar gyfer yswiriant dan y deddfau cydraddoldeb. Gall yswirwyr godi mwy am bolisi yswiriant, os ydynt yn credu bod risg uwch y bydd rhywun yn hawlio. Gallant hyd yn oed wrthod yswirio rhywun. Ond rhaid iddynt edrych ar bob achos yn unigol.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar yswiriant.

Cymorth sydd ar gael

Os oes gennych epilepsi, gallech gael presgripsiynau am ddim. Efallai byddwch hefyd yn gallu cael tocynnau bws a rheilffordd rhatach, neu am ddim. Os yw’ch epilepsi yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, efallai y byddwch yn gallu cael rhai budd-daliadau.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am hawliau a budd-daliadau i bobl gydag epilepsi.

Cymorth cyntaf ar gyfer trawiadau

Trawiadau Tonig-Clonig

Mae’r unigolyn yn cyffio, yn colli ymwybyddiaeth ac yna’n syrthio i’r llawr. Yn dilyn hyn bydd symudiadau ysgytwol. Mae’n debygol y bydd gwawr las o amgylch y geg. Mae hyn oherwydd anadlu afreolaidd. Gellir colli rheolaeth o’r bledren ac/neu bowel. Wedi munud neu ddau, dylai’r ysgytwadau stopio ac fe ddylid dychwelyd yn raddol i ymwybyddiaeth.

Beth i’w wneud...

  • Diogelwch yr unigolyn rhag anaf – (symudwch wrthrychau niweidiol o’r cyffiniau)
  • Rhowch glustog o amgylch y pen
  • Chwiliwch am gerdyn adnabod neu emwaith adnabod epilepsi
  • Helpwch anadlu trwy eu gosod yn ofalus yn yr ystum adferol unwaith y bydd y trawiad wedi gorffen (gweler y lluniau)
  • Arhoswch gyda’r unigolyn nes y bydd wedi adfer yn llwyr
  • Cysurwch nhw yn dawel

 

Peidiwch â...

  • Atal symudiadau’r unigolyn
  • Rhoi unrhyw beth yng ngheg yr unigolyn
  • Ceisio symud yr unigolyn oni bai fod perygl uniongyrchol
  • Rhoi unrhyw beth i’r unigolyn fwyta neu yfed nes bydd wedi adfer yn llwyr
  • Ceisio dadebru’r unigolyn

Ffoniwch am ambiwlans...

  • Os ydych chi’n gwybod mai dyma drawiad cyntaf yr unigolyn, neu
  • Os yw’r trawiad yn parhau am fwy na phum munud, neu
  • Mae un trawiad tonig-glonig yn dilyn y llall heb i’r unigolyn ddadebru rhwng trawiadau, neu
  • Mae’r unigolyn wedi cael anaf yn ystod y trawiad, neu
  • Os ydych yn credu bod yr unigolyn angen sylw meddygol ar unwaith

Trawiadau ffocal (rhannol)

Weithiau fydd unigolyn ddim yn ymwybodol o beth sydd o’i gwmpas na beth mae’n wneud. Gall dynnu ar ei ddillad, taro ei wefusau, llyncu dro ar ôl tro, a chrwydro o gwmpas.

Beth i’w wneud...

  • Tywyswch yr unigolyn oddi wrth berygl
  • Arhoswch gyda’r unigolyn nes y bydd wedi adfer yn llwyr
  • Cysurwch nhw yn dawel
  • Esboniwch bopeth sydd wedi digwydd

Peidiwch â...

  • Atal yr unigolyn
  • Gweithredu mewn ffordd allai ei ddychryn, fel symud yn sydyn neu weiddi arno
  • Tybio fod yr unigolyn yn ymwybodol o beth sy’n digwydd, neu beth ddigwyddodd
  • Rhoi unrhyw beth i’r unigolyn fwyta neu yfed nes bydd wedi adfer yn llwyr
  • Ceisio dadebru’r unigolyn

Ffoniwch am ambiwlans os...

  • Os ydych chi’n gwybod mai dyma drawiad cyntaf yr unigolyn
  • Os yw’r trawiad yn parhau am fwy na phum munud
  • Mae’r unigolyn wedi cael anaf yn ystod y trawiad
  • Os ydych yn credu bod yr unigolyn angen sylw meddygol ar unwaith

Ynghylch yr wybodaeth hon

Mae Epilepsy Action yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb gwybodaeth yn ei wybodaeth ond ni ellir ei ddal yn atebol am unrhyw gamau a gymerwyd yn seiliedig ar yr wybodaeth hon.

Hoffem wybod os fu’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi. Gallech roi gwybod i ni trwy gwblhau’r ffurflen hon ar-lein yn.

Mae gan Epilepsy Action ddetholiad o gyhoeddiadau am sawl agwedd gwahanol ar epilepsi. Ceir gwybodaeth yn y fformatau canlynol: llyfrynnau, dalenni ffeithiau, posteri, llyfrau a DVDs ac e-lyfrau.

Llinell Gymorth Epilepsi

Rhadffon 0808 800 5050, testun 0753 741 0044,
e-bost: hepline@epilepsy.org.uk, trydar @epilepsyadvice

Cod: OL21.01 Dyddiad: Ebrill 2014 I’w adolygu: Ebrill 2017
Mae’r wybodaeth hon tu allan i ofynion y Safon Gwybodaeth.

Manylion cyswllt

Epilepsy Action, Gate Way Drive, Yeadon, Leeds LS19 7XY, UK, +44 (0)113 210 8800. Mae Epilepsy Action yn enw gweithredol i British Epilepsy Association. Cwmni cyfyngedig drwy warant (cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 797997). Elusen gofrestredig yn Lloegr (Rhif 234343)

© Hawlfraint Epilepsy Action 2014

Code: 
OL21.01
Event Date: 
Monday 2 June 2014 - 10:31

This information is exempt under the terms of The Information Standard.

There are no comments yet. Be the first to comment...