We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

Safety advice for people with epilepsy [Welsh]

English

Cyngor diogelwch i bobl gydag epilepsi

Mae’r wybodaeth hon yn edrych ar risgiau posibl o fewn a’r tu allan i’ch cartref os oes gennych epilepsi. Mae’n disgrifio sut i gynnal gwiriad diogelwch. Mae’n ymdrin â sut y dylech drin y risg a sut i helpu’ch hun i fod yn fwy hyderus wrth fynd allan. Yn olaf, mae’n cynnig rhai cynghorion ymarferol ar gadw’n ddiogel ble bynnag yr ydych chi.

Epilepsi a diogelwch: cwestiynau cyffredin

  • A oes angen i mi feddwl am ddiogelwch yn wahanol i bobl eraill?
  • Sut y gallai fy ffitiau fy rhoi wrth risg?
  • Pa rai yw’r sefyllfaoedd mwyaf peryglus?
  • A oes gan bawb ag epilepsi'r un lefel o risg?
  • Sut ydw i’n penderfynu os oes risg?
  • Beth ddylwn i wneud os oes rhywun arall yn gweld y lefel risg yn wahanol? 
  • Sut ydw i’n cynnal gwiriad diogelwch?
  • Rwy’n rhiant gydag epilepsi. Sut y gallaf i ofalu am fy mhlentyn mor ddiogel â phosib? 
  • Rwy’n torri fy esgyrn yn aml

A oes angen i mi feddwl am ddiogelwch yn wahanol i bobl eraill?

Fe all epilepsi achosi peth risgiau i’ch diogelwch. Serch hynny, trwy osod rhai mesurau diogelwch, gallwch ostwng y risg hwn. Mae llawer o weithgareddau a sefyllfaoedd sy’n cynnig rhyw fath o risg, hyd yn oed os nad oes gennych chi epilepsi. Ond mae pobl yn dal i wneud y gweithgareddau hyn - fel arall ni fyddai unrhyw un byth yn croesi’r ffordd! Yr un peth ag unrhyw un arall, fe allech chi ystyried gweithgaredd penodol a phenderfynu a yw buddion ei wneud yn fwy na risg y gweithgaredd. Rhaid cydbwyso’r risgiau a’r buddion.

Sut y gallai fy ffitiau fy rhoi wrth risg?

Os oes gennych chi epilepsi, fe all eich ffitiau eich rhoi chi wrth risg cynyddol o ddamweiniau neu anafiadau. Yn ystod ffit epileptig, fe allech chi ddisgyn, colli ymwybyddiaeth, neu brofi symudiadau cyhyrol na allwch chi eu rheoli. Gall y rhain i gyd eich rhoi chi wrth risg o anafiadau corfforol megis:

  • Cleisiau
  • Llosgiadau a sgaldiadau
  • Briwiau
  • Boddi
  • Toriadau
  • Anafiadau i’r pen

Pa rai yw’r sefyllfaoedd mwyaf peryglus?

  • Uchderau
  • Traffig
  • Dŵr
  • Ffynonellau gwres neu bŵer

 

A oes gan bawb ag epilepsi'r un lefel o risg?

Nid oes gan bawb ag epilepsi'r un lefel o risg. Er enghraifft, efallai na fydd rhywun sy’n profi ffit wrth fwy o risg nac unigolyn nad yw’n dioddef ag epilepsi.

Ond fe allai rhywun sy’n dioddef llawer o ffitiau tonic-clonig [3] anrhagweladwy fod wrth fwy o risg.

Ynghyd â damweiniau neu anafiadau, gallwch chi hefyd fod wrth risg o farwolaeth annisgwyl sydyn oherwydd epilepsi (SUDEP). Mae’n ymddangos fod rhai pobl wrth fwy o risg nac eraill. Mae gan Epilepsy Action wybodaeth ar wahân am hyn, gan gynnwys ffyrdd o ostwng y risgiau hynny.

Mae’r risg o ddamweiniau neu anafiadau yn dibynnu ar:

  • Beth sy’n digwydd yn ystod eich ffit
  • Ble’r ydych chi
  • Beth yr ydych chi’n ei wneud
  • Pwy sydd gyda chi

Sut ydw i’n penderfynu os oes risg i mi?

Hwyrach na fydd risg i un person gydag epilepsi yn risg i berson arall. Mae’n well gan rai pobl gymryd peth risg. Mae’n well gan bobl eraill aros mor ddiogel â phosibl. Rhaid i chi daro cydbwysedd rhwng eich ansawdd bywyd ac aros yn ddiogel. Yna gallwch chi wneud dewis sy’n addas i chi.

Beth ddylwn i wneud os oes rhywun arall yn gweld y lefel risg yn wahanol?  

Mae’n debyg y bydd gwahanol bobl yn gweld risg yn wahanol. Mae hyn yn arbennig o debygol gydag aelodau’ch teulu. Mae’n naturiol eu bod yn teimlo’n bryderus amdanoch chi, ond unwaith yr ydych chi’n oedolyn, chi fydd yn dewis rhwng ansawdd bywyd a diogelwch. Fe allai eu helpu hwy i wybod eich bod chi’n ymwybodol o’u pryder. A byddai’n dda gweld os oes modd i chi gydweithio i ganfod ffordd iddynt deimlo’n llai pryderus. Fe allai hyn gynnwys cytuno i fynd â ffrind gyda chi i rywle, neu anfon neges testun atynt bob hyn a hyn pan fyddwch chi allan, er enghraifft. Gweler diogelwch y tu allan i’r tŷ am ragor o awgrymiadau.

Sut ydw i’n cynnal gwiriad diogelwch?

Mae gwiriad diogelwch yn eich helpu chi i benderfynu a yw rhywbeth yn ddiogel i chi yn bersonol. Ac os oes risgiau, mae’n eich helpu chi i feddwl beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y gweithgaredd yn ddigon diogel i chi ei wneud. Nid oes yn rhaid iddo fod yn gymhleth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:

  • Meddwl am eich ffitiau – beth sy’n digwydd, pa mor aml maen nhw’n digwydd, sbardunau penodol
  • Cadw dyddiadur ffitiau neu lawrlwytho ap i helpu i gasglu gwybodaeth am batrymau neu sbardunau.  Mae gwybod am sbardunau a phatrymau yn cynnig peth gwybodaeth ddefnyddiol am sut i sicrhau bod gweithgaredd yn ddiogel i chi
  • Meddyliwch beth fyddai’r risgiau pe baech chi’n profi ffit  
  • Lluniwch gynllun i gymryd camau sy’n gostwng y risgiau hynny

Dyma rai cwestiynau i helpu gyda gwiriad diogelwch:

Cwestiynau gwiriad diogelwch

Beth yw’r gweithgaredd/sefyllfa?

  • Pryd a ble bydd y gweithgaredd yn digwydd?
  • A fydd pobl eraill gyda chi?
  • A fydd unrhyw offer neu gyfarpar sydd â’r potensial i fod yn beryglus gyda chi?  
  • Pa mor bell fyddech chi o dderbyn cymorth, pe bai ei angen arnoch chi?

Beth am eich ffitiau a allai eich rhoi chi wrth risg?

  • Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n profi ffit?
  • Pa mor hir mae’ch ffitiau yn para?
  • Pa mor aml ydych chi’n profi ffitiau?
  • A yw’ch ffitiau yn dilyn unrhyw fath o batrwm?
  • A oes gennych chi unrhyw sbardunau?
  • A ydych chi’n derbyn rhybudd cyn ffit?
  • Pa mor gyflym a pha mor dda ydych chi’n gwella ar ôl ffit?

Beth allech chi ei wneud i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn fwy diogel i chi?

  • A ydych chi angen rhywun gyda chi?
  • A ydych chi angen unrhyw gyfarpar ychwanegol?
  • A oes angen newid y gweithgaredd ar eich cyfer o gwbl?
  • A ydych chi angen unrhyw newidiadau i’r amgylchedd?

A oes yn rhaid i chi benderfynu peidio â gwneud y gweithgaredd?

Canllawiau ymarferol ar gadw’n ddiogel

Ariannu

Mae’n bosibl y gallai peth o’r cyfarpar yr ydym yn eu crybwyll yma fod yn weddol ddrud i chi allu eu gosod eich hun. Neu efallai na fydd yn ymarferol yn eich cartref, er enghraifft os nad oes digon o le. Efallai y gallech chi dderbyn peth cymorth gan eich awdurdod lleol i wneud eich cartref yn fwy diogel, os ydynt hwy’n meddwl bod angen hynny arnoch chi. Byddai hyn fel arfer yn golygu asesiad gan eich therapydd galwedigaethol. Fe allech chi ofyn am hyn trwy eich meddyg teulu, eich asiantaeth gwasanaethau cymdeithasol lleol neu gallwch gysylltu â therapydd galwedigaethol [4] yn uniongyrchol. Mae’r holl fanylion ar-lein.

Mae hefyd yn bosibl gofyn i’ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol am asesiad gofal cyffredinol [5]. Ynghyd ag edrych ar unrhyw newidiadau a allai fod eu hangen arnoch chi yn eich cartref, fe ddylai hyn gynnwys ffurfiau eraill o gefnogaeth bosibl megis rhywun gyda chi wrth i chi roi bath i’ch baban.

Diogelwch yn y cartref  

Diogelwch cyffredinol yn y cartref

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o losgiadau a sgaldiadau

  • Sicrhewch nad oes unrhyw wifrau rhydd ynghlwm wrth ddyfeisiau a allai achosi tân neu losgiadau pe bai hwy’n cael eu tynnu lawr. Gall teclynnau cadw gwifrau yn daclus, sydd ar gael o siopau DIY, helpu i gadw gwifrau o’r neilltu
  • Defnyddiwch warchodwyr ar wresogyddion a rheiddiaduron i’ch atal chi rhag disgyn yn uniongyrchol ar eu pennau
  • Defnyddiwch warchodwr tân sydd wedi’i osod ar y wal, fel na fydd yn symud os byddwch chi’n disgyn arno. Rhowch wresogyddion rhydd yn rhywle ble maen nhw’n lleiaf tebygol o gael eu bwrw drosodd
  • Defnyddiwch sychwr gwallt synhwyrydd sy’n diffodd ei hun pan fydd yn cael ei roi i lawr
  • Peidiwch â defnyddio dyfeisiau â gwres os ydych chi ar eich pen eich hun – mae hyn yn cynnwys sychwr gwallt, haearn smwddio, sythwr gwallt neu declyn cyrlio gwallt
  • Diffoddwch declynnau â gwres ar unwaith ar ôl eu defnyddio a gosodwch hwy allan o gyrraedd hyd nes y byddant wedi oeri
  • Gosodwch garpedi sydd â chynnwys gwlân uchel yn hytrach na chynnwys synthetig, er mwyn gostwng risg o losgiadau ffrithiant
  • Gosodwch synwyryddion mwg, a all fod yn ddefnyddiol mewn dwy ffordd:
        - Fe allant hysbysu pobl eraill os oes bwyd yn llosgi oherwydd eich bod chi’n dioddef ffit 
        - Byddant yn rhoi gwybod i chi bod bwyd yn llosgi os oes gennych broblemau cof ac weithiau’n anghofio beth yr ydych chi’n ei wneud

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o friwiau, cleisiau, toriadau ac anafiadau i’r pen 

  • Osgowch osod wynebau llawr caled iawn - bydd lloriau â mwy o glustog, megis carpedi, leino, corc a rwber, yn cynnig wyneb gwell i lanio arno os fyddwch chi’n disgyn
  • Cadwch y grisiau yn rhydd o rwystrau bob amser, er mwyn osgoi baglu
  • Rhowch fat neu garped meddal ar waelod y grisiau, er mwyn lleddfu unrhyw ddisgyniadau. Gorchuddiwch unrhyw ymylon sy’n finiog neu’n estyn allan, er enghraifft ar ddodrefn. Mae gwarchodwyr ymyl a chornel ar gael o nifer o wahanol siopau
  • Defnyddiwch wydr diogelwch wedi’i gryfhau neu ffenestr ddwbl mewn ffenestri neu ddrysau, neu gorchuddiwch wydr arferol gyda ffilm diogelwch - cysylltwch â’ch gwneuthurwr gwydr lleol neu siop DIY am ragor o wybodaeth
  • Sicrhewch fod gan unrhyw ffenestri neu ddrysau sydd i fyny’r grisiau sy’n agor yn llydan gloeon addas, fel na allwch chi ddisgyn allan ohonynt
  • Sicrhewch nad oes unrhyw wifrau rhydd y gallech chi faglu drostynt. Gall teclynnau tacluso gwifrau, sydd ar gael o siopau DIY, gadw gwifrau o’r neilltu
  • Os yw’n bosibl, defnyddiwch fersiynau heb fflecs o bethau megis haearn smwddio a thegell
  • Ar gyfer eitemau trydanol gyda gwifrau hir, defnyddiwch wifrau troellog, fel nad ydych chi’n baglu drostynt  

Yn yr ystafell ymolchi

Os ydych chi’n profi ffitiau, mae’n bwysig bod yn ofalus iawn wrth gael bath, oherwydd mae perygl y gallwch foddi yn ystod ffit.

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o foddi

  • Mynnwch gawod yn hytrach na bath – mae’n fwy diogel gan fod y dŵr yn llifo i ffwrdd
  • Gofynnwch i rywun aros yn yr ystafell ymolchi gyda chi, neu aros y tu allan i’r drws, fel bod modd iddynt glywed os ydych chi’n cael ffit
  • Rhowch arwyddion ‘prysur/gwag’ ar ddrws yr ystafell ymolchi, yn lle defnyddio cloeon
  • Defnyddiwch ddrws ystafell ymolchi sy’n agor am allan, neu sy’n plygu neu’n llithro ar agor ac ar gau. Yna, os byddwch chi’n disgyn yn ei erbyn yn ystod ffit, ni fyddwch chi’n rhwystro unrhyw un rhag cael mynediad

Yn y bath

  • Cadwch ddyfnder y dŵr yn fas a diffoddwch y tapiau cyn i chi fynd i mewn i’r bath neu
  • Peidiwch â rhoi’r plwg mewn, ond eisteddwch yn y bath gyda’r dŵr yn rhedeg o’r tapiau neu gyda darn i’r gawod

 Yn y gawod

  • Mynnwch gawod gyda llawr gwastad yn hytrach nac unrhyw beth ble gallai’r dŵr gasglu  

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o friwiau, cleisiau, toriadau neu anafiadau i’r pen

  • Sicrhewch fod unrhyw osodiadau mor agos i’r wal â phosibl, er mwyn gostwng risg o fwrw yn eu herbyn os byddwch chi’n disgyn
  • Dylech gael cawod ar wahân yn hytrach na chawod dros fath
  • Defnyddiwch sgrin cawod wedi’i wneud o blastig neu wydr diogelwch, neu lenni cawod
  • Os yw’r gawod dros y bath, gorchuddiwch y tapiau gyda deunydd amddiffynnol, megis tywel trwchus, er mwyn osgoi anaf os byddwch chi’n disgyn
  • Os yw’n bosibl, eisteddwch yn y gawod yn hytrach na sefyll, er mwyn osgoi anafiadau os byddwch chi’n disgyn  

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o sgaldiadau

  • Sicrhewch fod y rheolyddion tymheredd yn gweithio’n dda a bod ‘toriad’ diogelwch yn y gawod

Yn y gegin

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o losgiadau a sgaldiadau

  • Defnyddiwch ficro-don yn hytrach na ffwrn nwy neu drydan
  • Gosodwch sosbenni ar y llosgyddion cefn gyda’r coesau wedi’u troi oddi wrth ymyl y ffwrn, fel na allwch eu bwrw drosodd
  • Ewch â phlatiau a dysglau at y ffwrn, yn hytrach na chario sosbenni poeth i’r bwrdd
  • Defnyddiwch dostiwr yn hytrach na gridyll er mwyn osgoi’r risg o losgi bwyd
  • Defnyddiwch arllwyswyr tegell a thebot, er mwyn osgoi’r risg o ollwng hylif poeth

Yn yr ystafell wely

Os ydych chi’n profi ffitiau tra’ch bod yn y gwely, dyma rai awgrymiadau i wneud yr ystafell wely yn fwy diogel:

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o losgiadau a sgaldiadau:

  • Osgowch osod eich gwely wrth ymyl rheiddiadur

Awgrymiadau ar gyfer gostwng risg o friwiau, cleisiau, toriadau ac anafiadau i’r pen

  • Osgowch roi’r gwely yn erbyn wal neu wrth ymyl rheiddiadur, er mwyn osgoi bwrw’ch coesau neu’ch breichiau
  • Gosodwch glustogau, gobenyddion neu fatres ar y llawr o amgylch y gwely, i ostwng anafiadau os byddwch chi’n disgyn allan o’r gwely
  • Dewiswch wely isel, fel bod llai o bellter i ddisgyn i’r llawr
  • Cadwch wrthrychau a dodrefn ag ymyl miniog oddi wrth y gwely

Gobenyddion gwrth-fygu

Mae rhai pobl sy’n dioddef ffitiau yn eu cwsg yn defnyddio gobenyddion gwrth-fygu. Gallai’r rhain fod yn fwy diogel na gobenyddion arferol, er nid oes gennym unrhyw ymchwil i brofi hyn. Os ydych chi’n ystyried prynu gobennydd gwrth-fygu, fe’ch cynghorir i drafod hyn gyda’ch nyrs epilepsi neu arbenigwr epilepsi.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar ble i brynu gobenyddion gwrth-fygu [6]

Lifftiau

Os ydych chi’n profi anawsterau symudedd, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio lifft grisiau neu lifft fertigol. Nid yw’r un o’r rhain yn dod heb risg os ydych chi’n profi ffitiau, ac nid oes datrysiad perffaith. I ryw raddau, mae’n fater o gyfaddawdu rhwng yr opsiwn rhataf a’r hyn sy’n ymarferol.

Lifftiau Fertigol

Ble fo’n bosibl, oherwydd eu bod yn debygol o fod yn fannau bach a chyfyng, dylai’r tu fewn fod yn gwiltiog er mwyn lleddfu’r poen os byddwch chi’n disgyn.

Lifft grisiau

  • Mae gan y rhan fwyaf o lifftiau grisiau wregys syml y dylech ei defnyddio, gan nad ydynt yn debygol o achosi anaf os byddwch chi’n cael ffit
  • Efallai y bydd angen i chi wisgo harnais lawn i’ch atal chi rhag disgyn, ond byddwch yn ymwybodol y gallai hyn achosi anaf yn ystod ffit. Gallai hyn, serch hynny, fod yn fwy diogel na disgyn o’r lifft grisiau

Yn yr ardd

Awgrymiadau i ostwng risg o losgiadau a sgaldiadau

  • Osgowch fynd yn rhy agos i goelcerth neu farbeciws y gallech chi ddisgyn arnynt yn ystod ffit
  • Os ydych chi’n crwydro weithiau yn ystod ffit, gofynnwch i rywun aros gyda chi pan fyddwch chi wrth ymyl coelcerth neu farbeciw  

Awgrymiadau i ostwng risg o foddi

  • Osgowch gael llynnoedd neu byllau yn eich cartref
  • Os oes gennych lyn neu bwll, sicrhewch fod ffens ddiogel o’i amgylch pan fyddwch chi ar eich pen eich hun yn yr ardd  

Diogelwch y tu allan i’r tŷ

Mae llawer o bobl gydag epilepsi yn poeni am brofi ffit wrth fynd allan. Mae hwn yn rheswm cyffredin iawn pam y byddech chi’n teimlo’n fwy diogel yn y cartref. Gallech chi fod yn poeni am sawl rheswm:

  • Anafu’ch hun
  • Embaras/ymateb y cyhoedd/cael eich camddeall
  • Cael eich cludo i’r ysbyty yn ddiangen
  • Creu problemau yn y gwaith
  • Dinistrio digwyddiad i’ch cydymaith/rhywun arall

Rhai cynghorion i gadw’n ddiogel y tu allan

  • Gwnewch benderfyniadau gofalus ar sail yr hyn yr ydych chi wedi’i ddysgu o’ch gwiriad diogelwch
  • Rhowch bopeth posibl yn ei le i isafu ar y risg
  • Ewch â charden neu emwaith meddygol [7] sy’n esbonio bod gennych epilepsi, pa gymorth cyntaf a allai fod ei angen neu nad oes ei angen arnoch chi a phwy i gysylltu â hwy
  • Ystyriwch a fyddai rhyw fath o larwm neu ddyfais olrhain yn ddefnyddiol i chi
  • Os ydych chi’n teimlo’n bryderus am fynd allan, gofynnwch i’ch meddyg teulu a oes unrhyw grwpiau a allai eich helpu chi gyda hyn
  • Os ydych chi’n pryderu sut y bydd eich ffrindiau neu gydweithwyr yn ymateb os byddwch chi’n cael ffit, rhannwch eich pryderon a gwiriwch eu bod yn gywir. Os oes ganddynt bryderon, efallai y byddant angen rhagor o wybodaeth am epilepsi. Fe allech chi rannu hyn eich hun neu eu cyfeirio at adnoddau Epilepsy Action [8]

Adnabod epilepsi

Fe allech chi ddewis cludo neu wisgo rhyw fath o ddull adnabod, yn enwedig os ydych chi allan ar eich pen eich hun. Gallai hyn fod yn gerdyn adnabod neu emwaith hunaniaeth feddygol [7].

Larymau y tu allan a’r tu fewn i’r cartref

Mae gwahanol fathau o larymau [9]a all fod yn ddefnyddiol i rai pobl gydag epilepsi. Bydd y math o ddyfais a allai weithio i chi yn dibynnu ar beth yr hoffech chi i’r larwm ei fonitro (symudiad, disgyn, sŵn) a phwy sy’n mynd i ymateb i’r larwm. Dim ond yn y tŷ y bydd rhai larymau yn gweithio. Gall eraill anfon neges at rywun sydd yn eithaf pell, ond maen nhw’n ddrutach.

Os nad ydych chi’n adnabod rhywun a allai ymateb i larwm yn y tŷ (er enghraifft os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun) fe allech chi ystyried system teleofal. System teleofal yw pan fydd sefydliad megis gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb i’r larwm. Gallai’r cyfarpar fod yn rhad neu am ddim ond mae tâl wythnosol am y gwasanaeth. Mae gan y wefan NHS Choices gyflwyniad da i’r rhain. Efallai y byddwch chi hefyd eisiau gofyn i’r nyrs epilepsi neu arbenigwr am eu cyngor am gyfarpar.

Gwefan: nhs.uk

Mathau o larymau

  • Intercom baban neu fonitorau gwrando eraill a all drosglwyddo sain
  • Monitorau gweledol
  • Larymau gwely neu fatiau synhwyro a all synhwyro gwahanol bethau wrth i rywun gysgu, megis sain neu symudiad anarferol
  • Larymau disgyn, a all seinio pan fydd rhywun yn disgyn i’r llawr
  • Larymau ffôn, y gellir eu gweithredu gan reolydd pell gan rywun sydd angen help
  • Oriawr glyfar, a all roi gwybod i rywun os ydych chi wedi profi ffit a ble’r ydych chi

Am wybodaeth a chyngor am larymau ac o ble i’w cael, gallwch gysylltu â llinell gymorth cyfarpar Disabled Living Foundation.

Ffôn: 0300 999 0004  (codir galwadau ar gyfradd leol)
Ffôn testun: 020 7432 8009 (codir galwadau ar gyfradd safonol)
E-bost: advice@dlf.org.uk [10]

Enw gwefan Disabled Living Foundation yw Living made Easy [11].

Larymau teleofal (larymau sy’n gysylltiedig â chanolfan gymorth)
Gwefan: livingmadeeasy.org.uk/telecare [12]

Larymau gwely  
Gwefan: livingmadeeasy.org.uk/bedroom [13]

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth am gymhorthion byw dyddiol [14]

Sut y gallaf i fynd o fan i fan yn ddiogel pan nad wyf yn gallu gyrru?

Os nad ydych chi’n bodloni cyfreithiau epilepsi a gyrru [15]mae’n bwysig nad ydych chi’n gyrru. I lawer o bobl mae hyn yn anodd iawn i ddod i delerau ag ef. Ac mae gan rai pobl bryderon am aros yn ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych chi’n teimlo’n hyderus yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cofiwch gynllunio eich siwrnai ymlaen llaw. Hefyd gweler a oes unrhyw beth o’n rhestr gyffredinol i gadw’n ddiogel y tu allan i’ch cartref a fyddai’n helpu.

Dyma rai ffyrdd y mae pobl yn cynllunio’u bywydau pan nad ydynt yn gallu gyrru:

  • Gofyn am lifftiau gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr
  • Ystyried byw wrth ymyl llwybr bws da neu orsaf reilffordd
  • Cynllunio’ch siwrnai o flaen llaw, fel eich bod yn teimlo’n hyderus am ble’r ydych chi’n mynd
  • Defnyddio tocyn bws am ddim a Cherdyn Rheilffordd Person Anabl
  • Defnyddio tacsis pan fydd angen
  • Siopa ar-lein
  • Cerdded, os yw’n bosibl
  • Beicio, gwisgo helmed ac osgoi ffyrdd prysur os yw’n bosibl

Sefydliadau defnyddiol

Disabled Living Foundation
Mae’n cynnal canolfan arddangos cyfarpar ac yn darparu gwybodaeth am gyfarpar er mwyn byw o ddydd i ddydd.
Gwefan: livingmadeeasy.org.uk [16]

Rica
Elusen ymchwil genedlaethol sy’n darparu gwybodaeth annibynnol i ddefnyddwyr hŷn ac anabl.
Ffôn: 020 7427 2460
Gwefan: rica.org.uk [17]

Coleg Therapyddion Galwedigaethol (COT)
Gall eich helpu chi i ganfod therapydd galwedigaethol a’ch cynghori chi ar addasiadau neu gyfarpar i’r cartref.
Ffôn: 020 7357 6480
Gwefan: cot.co.uk [18]

Dan’s fund for burns
Yn cynnig help i bobl sydd wedi’u heffeithio gan anafiadau llosg.
Ffôn: 020 7262 4039
Gwefan: dansfundforburns.org [19]

ROSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau)
Mae’n hyrwyddo diogelwch ac atal damweiniau yn y gwaith, wrth hamddena, ar y ffordd, yn y cartref a thrwy addysg diogelwch.
Ffôn: 0121 248 2000
Gwefan: rospa.com [20]

Os hoffech chi weld y wybodaeth hon gyda chyfeiriadau, ewch i’r adran Cyfeiriadau Cyngor a Gwybodaeth [21]ar ein gwefan. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â’n rhadffôn Llinell Gymorth Epilepsy Action ar 0808 800 5050. 

Cod: 

B015.04

Diweddarwyd Diwethaf: 

Hydref 2016

Dyddiad angen ei adolygu: 

Hydref 2019

Hoffai Epilepsy Action ddiolch i Christine Hanson, Uwch Nyrs Arbenigol Clinigol Epilepsi yng Nghaerdydd am ei chyfraniad i’r wybodaeth hon.

Nid yw Christine Hanson wedi datgan gwrthdaro buddiannau.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon o dan delerau Y Safon Gwybodaeth [22].


Ffynhonnell: https://www.epilepsy.org.uk/info/daily-life/safety

Dolenni:
[1] https://www.epilepsy.org.uk/info/caring-children
[2] https://www.epilepsy.org.uk/info/osteoporosis-osteomalacia
[3] https://www.epilepsy.org.uk/info/seizures/generalised-seizures#tc
[4] http://www.nhs.uk/Conditions/occupational-therapy/Pages/introduction.aspx
[5] http://www.nhs.uk/Conditions/social-care-and-support-guide
[6] https://www.epilepsy.org.uk/info/daily-living-aids#pillow
[7] https://www.epilepsy.org.uk/info/daily-living-aids#cards
[8] http://learn.epilepsy.org.uk/
[9] https://www.epilepsy.org.uk/info/daily-living-aids#alarms
[10] mailto:advice@dlf.org.uk
[11] http://www.livingmadeeasy.org.uk/
[12] http://www.livingmadeeasy.org.uk/telecare%20and%20alarms/
[13] http://www.livingmadeeasy.org.uk/bedroom/epilepsy-sensors-1375-p/
[14] https://www.epilepsy.org.uk/info/daily-living-aids
[15] https://www.epilepsy.org.uk/info/driving
[16] http://www.livingmadeeasy.org.uk
[17] http://www.rica.org.uk
[18] http://www.cot.co.uk
[19] http://www.dansfundforburns.org
[20] http://www.rospa.com/
[21] https://www.epilepsy.org.uk/sites/epilepsy/files/info/references/B015.04...
[22] https://www.epilepsy.org.uk/info/information-standard


Ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn

Ysgrifennir y wybodaeth hon gyda mewnbwn gan bobl ag epilepsi a gweithwyr proffesiynol. Mae Epilepsy Action yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ond ni all fod yn gyfrifol am unrhyw gamau a gymerir. Os ydych chi eisiau holi am ein ffynonellau, neu roi adborth i ni, cysylltwch â ni.  

Eich cefnogaeth

Gobeithio bod y wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gyfraniadau. Os hoffech chi wneud cyfraniad ewch i www.epilepsy.org.uk/donate Gallwch ddod yn aelod o Epilepsy Action am gyn lleied â £1 y mis yn www.epilepsy.org.uk/join or call 0113 210 8800.

Llinell Gymorth Epilepsi

Rhadffôn 0808 800 5050, testun 0753 741 0044, e-bost helpline@epilepsy.org.uk, twitter @epilepsyadvice

Manylion cyswllt

Epilepsy Action, Gate Way Drive, Yeadon, Leeds LS19 7XY, UK, +44 (0)113 210 8800. Elusen gofrestredig (Rhif 234343) a chwmni cyfyngedig drwy warant (Rhif 797997) yn Lloegr.

© Hawlfraint Epilepsy Action

 

Code: 
B015.04
Event Date: 
Wednesday 20 September 2017 - 11:59

Epilepsy Action would like to thank Christine Hanson, Advanced Clinical Nurse Specialist in Epilepsy in Cardiff for her contribution to this information.

Christine Hanson has declared no conflict of interest.

This information has been produced under the terms of The Information Standard.

  • Updated October 2016
    To be reviewed October 2019

There are no comments yet. Be the first to comment...