We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

 

Sports and leisure [Welsh]

English

Mae cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn bwysig i bawb, gan gynnwys pobl gydag epilepsi. Mae’r wybodaeth hon yn edrych ar nifer o wahanol weithgareddau chwaraeon a hamdden mewn perthynas ag epilepsi.

Rwyf wedi derbyn diagnosis epilepsi. A yw hyn yn newid pa weithgareddau y gallaf eu gwneud?

Gyda’r gefnogaeth gywir a’r rhagofalon diogelwch perthnasol, ychydig iawn fydd angen i chi ei osgoi. Os yw’ch trawiad’n cael eu rheoli’n llwyr gan feddyginiaeth epilepsi, efallai na fydd angen i chi gymryd unrhyw ragofalon diogelwch sy’n wahanol i unrhyw un arall. Bydd rhai pobl yn defnyddio’r cyfreithiau epilepsi a gyrru i benderfynu a yw eu trawiad dan reolaeth. Felly byddai hyn yn golygu peidio â chael trawiad am 12 mis. I unrhyw un, gydag epilepsi neu nad yw’n dioddef o epilepsi, mae bob amser y syniad da dilyn rheolau ac argymhellion yn ymwneud â diogelwch a chyfarpar.

A yw chwaraeon yn syniad da i bobl gydag epilepsi?

Dywed rhai pobl, pan fyddant yn actif, maen nhw’n llai tebygol o gael trawiad. Felly, i rai pobl gydag epilepsi, mae cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn gallu helpu eu hepilepsi. Mae nifer fechan iawn o bobl gydag epilepsi yn gweld bod ymarfer egnïol yn gallu cynyddu’r debygoliaeth o gael trawiad.

Sut ydw i’n penderfynu a yw gweithgaredd yn ddiogel i mi neu rywun arall?

Fel person gydag epilepsi byddwch chi bob amser angen gofyn i chi’ch hun a oes unrhyw risg yn gysylltiedig â gweithgaredd. Os oes, trwy sefydlu rhai mesurau diogelwch, gallwch chi ostwng y risg hon. Mae nifer o weithgareddau sy’n cynnwys ryw fath o risg, hyd yn oed os nad oes gennych chi epilepsi. Ond mae pobl yn dal i wneud y gweithgareddau hyn – fel arall fyddai neb byth yn croesi’r ffordd! Yn yr un modd ag unrhyw beth arall, fe allech chi ystyried gweithgaredd penodol a phenderfynu a yw buddion ei wneud yn fwy na’r risgiau. Mae’n ymwneud â chydbwyso’r rhain.

Bydd gan rai gweithgareddau gorff llywodraethu sydd â rheolau penodol yn ymwneud â diogelwch a chyflyrau meddygol. Am fanylion y sefydliadau hyn, cysylltwch ag Epilepsi Action.

Am ragor o wybodaeth ar risg gweler ein tudalennau gwe ar ddiogelwch.

A ddylwn i ddweud wrth bobl am fy epilepsi?

Er mwyn cymryd rhan mewn rhai chwaraeon neu weithgareddau efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen feddygol. Dim ond er mwyn helpu’r trefnydd i gynnal asesiad risg y dylid defnyddio’r wybodaeth hon ac, os oes angen, gwneud addasiadau rhesymol. Efallai y byddwch eisiau siarad â’ch meddyg yn gyntaf i’ch helpu chi i benderfynu os yw rhywbeth yn ddigon diogel i chi.

Os yw’ch epilepsi yn annhebygol o effeithio ar ddiogelwch eich hun ac eraill, efallai y byddwch chi’n teimlo nad oes angen i chi ddweud wrth unrhyw un am eich epilepsi.

  • Byddai’r atebion i’r cwestiynau hyn yn helpu gydag asesiad risg:
  • Pa mor aml yr ydych chi’n profi trawiad?
  • Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael trawiad?
  • A ydych chi’n cael rhybudd cyn trawiad?
  • Pa mor hir bydd eich trawiad yn para fel arfer?
  • A oes unrhyw sbardunau i’ch trawiad (er enghraifft goleuadau’n fflachio, cyffro, a noson wael o gwsg)?
  • Pa risg fyddai i chi neu bobl eraill pe byddech chi’n profi trawiad yn ystod y gweithgaredd?
  • Pa gefnogaeth fyddai ar gael pe bai ei hangen?

Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi yn cael eich atal yn annheg rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon neu hamdden oherwydd eich epilepsi, gwiriwch ein gwybodaeth ar gyfreithiau cydraddoldeb y DU ac epilepsi.

Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU, edrychwch am gyfreithiau tebyg yn eich gwlad trwy gysylltu â’ch sefydliad epilepsi lleol

Os hoffech chi wirio gweithgaredd nad yw ar y rhestr isod, cysylltwch ag Epilepsy Action.

Rhai Gweithgareddau

Yn y dŵr neu wrth ei ymyl: Chwaraeon dŵr yn gyffredinol, nofio, sgwba-blymio, jacwsi, pysgota
Ar hyd y lle:
Cerdded, beicio, rhedeg, dringo, marchogaeth ceffylau, sgïo, parciau antur
Dan do:
Yn y gampfa, sboncen, yoga, sawna ac ystafell stêm
Yn yr awyr:
Hedfan awyren breifat, plymio o’r awyr
Chwaraeon cyswllt ac eithafol:
Paffio, crefft ymladd, chwaraeon tîm

Yn y dŵr neu wrth ei ymyl

Chwaraeon dŵr yn gyffredinol

Gall pobl ag epilepsi y mae eu trawiad dan reolaeth dda fwynhau chwaraeon dŵr. Os yw’ch trawiad dan reolaeth lwyr, rhaid i chi ystyried y rhagofalon diogelwch cyffredinol ar gyfer y chwaraeon hwnnw. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, rhaid i chi ystyried materion diogelwch a’ch trawiad. Er enghraifft:

  • Gall rhai chwaraeon dŵr fod yn beryglus ac efallai y byddai’n well eu hosgoi
  • Peidiwch â gwneud chwaraeon dŵr ar eich pen eich hun
  • Sicrhewch fod rhywun gyda chi yn gwybod am eich epilepsi a sut i’ch achub chi os bydd angen
  • Mae gwisgo siaced achub yn hanfodol os oes perygl o ddisgyn i mewn i ddŵr

Nofio

Os yw’ch trawiad dan reolaeth lwyr, nid oes yn rhaid i chi gael rhagofalon diogelwch ychwanegol i unrhyw un arall. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, bydd yn rhaid i chi ystyried rhagofalon diogelwch. Er enghraifft:

  • Ceisiwch gyngor gan eich meddyg neu nyrs epilepsi. Trafodwch faterion megis eich math(au) o trawiad, amlder, ac unrhyw ffactorau eraill a allai effeithio ar eich diogelwch wrth nofio
  • Mae bob amser yn syniad da cael cydymaith yn y dŵr gyda chi
  • Siaradwch â’r staff yn eich pwll nofio lleol am unrhyw ofynion arbennig a allai fod gennych chi
  • Defnyddiwch gymhorthydd arnofiol/hynofedd
  • Os oes achubwr bywyd neu oruchwylydd pwll yn bresennol, hysbyswch hwy am eich epilepsi
  • Os nad oes achubwr bywyd cymwys yn bresennol, peidiwch â nofio yn ddyfnach na dyfnder ysgwyddau'r cydymaith sy’n nofio gyda chi
  • Sicrhewch fod eich cydymaith yn gwybod beth i’w wneud os byddwch chi’n cael trawiad ac yn ddigon cryf i’ch helpu chi (gweler sut i ddelio â trawiad yn y dŵr, isod)
  • Ewch ati i ymarfer beth i’w wneud os byddwch chi’n cael trawiad, gyda’ch cydymaith. Bydd hyn yn rhoi hwb i’ch hyder ac i’w hyder hwy
  • Fe allech chi ofyn i achubwr bywyd ddangos i chi sut i ddelio â trawiad sy’n digwydd yn y dŵr
  • Peidiwch â nofio os ydych chi’n teimlo’n anhwylus
  • Osgowch sefyllfaoedd gorlawn, gan y gallai fod yn anodd i eraill sylwi arnoch chi yn cael trawiad

Sut i ddelio â trawiad yn y dŵr

Trawiad tonig-clonig – canllawiau sylfaenol:

  • O’r tu ôl, gwyrwch ben y person fel ei fod allan o’r dŵr
  • Os yw’n bosib, symudwch y person i ddŵr bas, wrth ddal eu pen uwchlaw’r dŵr
  • Peidiwch â chyfyngu ar eu symudiadau na gosod unrhyw beth yn eu ceg
  • Unwaith y mae’r symudiadau ysgytio wedi stopio, symudwch hwy i dir sych
  • Gosodwch hwy ar eu hochr i wella
  • Arhoswch gyda hwy nes eu bod yn teimlo’n well

Trawiad ffocal ac absenoldeb – canllawiau sylfaenol:

Gwarchodwch y person rhag perygl, er enghraifft trwy eu tywys o’r dŵr dwfn neu trwy ddal eu pen uwchlaw’r dŵr. Pan fyddant yn gwella, gwiriwch a ydynt eisiau mynd allan o’r dŵr oherwydd fe allent deimlo’n ddryslyd ac angen gorffwys.

Pa bryd i alw am ambiwlans

  • Ffoniwch am ambiwlans:
  • Os credwch chi fod y person wedi llyncu neu anadlu dŵr, hyd yn oed os yw’n ymddangos eu bod wedi gwella’n iawn neu
  • Os ydych chi’n gwybod  mai dyma trawiad gyntaf y person, neu os nad ydych chi’n adnabod y person neu
  • Os yw person yn mynd o un trawiad i un arall heb adfer ymwybyddiaeth rhwng y trawiad neu
  • Os yw’r trawiad yn para’n hwy na’r hyn sy’n arferol i’r person neu, os oes amheuaeth, pan fydd y trawiad yn para am fwy na phum munud neu
  • Os yw’r person wedi’i anafu

Sgwba-blymio

Mae Clwb Sgwba-blymio Prydain yn argymell eich bod chi’n rhydd rhag trawiad effro ac oddi ar feddyginiaethau epilepsi am bum mlynedd os ydych chi eisiau mynd i sgwba-blymio. Os mai dim ond pan fyddwch chi’n cysgu y byddwch chi’n profi trawiad, dylech chi fod yn rhydd rhag trawiad ac oddi ar feddyginiaeth epilepsi am dair blynedd.

Jacwsi

Does dim rheswm pam na ddylech chi ddefnyddio Jacwsi. Serch hynny, os nad yw’ch trawiad o dan reolaeth dda, dylech chi gael rhywun gyda chi sy’n gwybod sut i’ch helpu chi, os byddwch chi’n cael trawiad.

Pysgota

Os yw’ch trawiad o dan reolaeth lwyr, rhaid i chi ystyried y rhagolygon diogelwch cyffredinol ar gyfer pysgota. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, peidiwch byth â physgota ar eich pen eich hun a gwnewch yn siŵr bod y person gyda chi yn gwybod beth i’w wneud os byddwch chi’n cael trawiad. Mae gwisgo siaced achub yn hanfodol os oes perygl o ddisgyn i’r dŵr. A gallai defnyddio llinell hirach olygu nad oes yn rhaid i chi eistedd yn rhy agos at ymyl y dŵr.

Ar hyd y lle

Er mwyn teimlo’n hyderus pan fyddwch chi allan ar eich pen eich hun ar gyfer gweithgareddau megis loncian neu grwydro, ystyriwch ddefnyddio larwm sy’n defnyddio dyfais olrhain neu leoliad. Gallai hyn nid yn unig hysbysu rhywun pe byddech chi’n dioddef trawiad, fe allai hefyd ddweud wrth y person ble’r ydych chi.

Mae gan Epilepsy Action ragor o wybodaeth ar larymau trawiad.

Cerdded

Does dim rheswm pam y dylai epilepsi eich atal chi rhag mynd i gerdded neu grwydro. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, mae’n syniad da mynd gyda rhywun sy’n gwybod beth i’w wneud os byddwch chi’n profi trawiad.

Am wybodaeth bellach ar grwydro ac epilepsi, cysylltwch â’r Gymdeithas Gerdded/Ramblers Association.

Beicio

Mae’r rhagofalon diogelwch arferol i feicwyr yn cynnwys gwisgo dillad llachar a phenwisg amddiffynnol. Mae’r rhagofalon hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych epilepsi ac eisiau beicio. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, ceisiwch osgoi beicio ar ffyrdd prysur ac wrth afonydd neu gamlesi. Os ydych chi’n profi trawiad aml, fe allech chi benderfynu osgoi beicio ar ffyrdd cyhoeddus yn llwyr, hyd nes y bydd eich trawiad dan reolaeth well. Ni chaniateir beicio ar y palmant i unrhyw un dros 10 oed.

Rhedeg neu loncian

Os ydych chi’n rhedeg neu’n loncian, fe allech chi ystyried cymryd rhai rhagolygon diogelwch ychwanegol. Gallai’r rhain gynnwys cadw at lwybrau gyda digon o olau ac yn rhydd rhag traffig. Mae’n well peidio â rhedeg wrth afonydd neu gamlesi. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, yn ddelfrydol fe ddylech chi fynd gyda rhywun arall a/neu fynd â ffôn symudol gyda chi i alw am help os bydd angen.

Dringo

Mae uchderau yn berygl posibl i unrhyw un gydag epilepsi. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na ddylech chi fynd i ddringo. Ond bydd angen i chi feddwl yn ofalus am eich diogelwch chi a diogelwch bobl eraill gyda chi mewn unrhyw grŵp dringo. Yn benodol, os ydych chi’n dal i brofi trawiad fe fyddai’n well ceisio cyngor meddygol cyn dringo i uchder uchel. Gall ddringo’n gyflym i uchder gynyddu’r risg o rywun yn profi trawiad. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, efallai y bydd angen i chi ystyried osgoi’r chwaraeon hwn, hyd nes y bydd eich trawiad dan reolaeth well.

Marchogaeth ceffylau

Gall marchogaeth ceffylau fod yn ddiogel os yw’ch trawiad dan reolaeth dda, neu os ydych chi’n cael rhybudd digon hir cyn trawiad. Os nad yw’ch trawiad dan reolaeth dda ac y gallai eich achosi chi i ddisgyn oddi ar y ceffyl, fe allai fod yn bosibl i chi farchogaeth. Serch hynny, byddai angen i chi dderbyn cefnogaeth agos gan rywun yn cerdded wrth ymyl y ceffyl.

Sgïo

Gall nifer o bobl gydag epilepsi fwynhau sgïo traws gwlad ac ar lethrau. Serch hynny, os ydych chi’n dal i brofi trawiad, dylech chi osgoi sgïo ar lethrau. Y rheswm dros hyn yw y byddai’n beryglus pe byddech chi’n profi trawiad. Os ydych chi’n mynd i sgïo traws gwlad, ewch gyda rhywun sy’n gwybod beth i’w wneud os byddwch chi’n cael trawiad.

Parciau Antur

Efallai y bydd gennych bryderon am ddiogelwch ar reidiau. Cyhyd â bod rhagofalon diogelwch cyffredinol, ni ddylai fod angen i chi osgoi reidiau.
Gallai rhai atyniadau gynnwys goleuadau yn fflachio ac efallai y bydd angen i chi osgoi’r rhain os oes gennych epilepsi ffotosensitif.

Dan do

Yn y gampfa

Os ydych chi wedi bod yn rhydd rhag trawiad am 12 mis dylech chi fod yn gallu defnyddio unrhyw ddarn o gyfarpar campfa. Os ydych chi’n dal wrth risg o brofi trawiad, efallai y bydd cyfarpar na ddylech chi eu defnyddio oherwydd na fyddai’n ddiogel i chi neu bobl eraill. Fe allech chi drafod hyn gyda’r staff yn y gampfa a gofyn am asesiad diogelwch.

Sboncen

Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, byddai’n syniad da gwirio gyda’ch meddyg am chwarae sboncen. Yn ychwanegol at berygl posibl o’r cyfarpar pe byddech chi’n profi trawiad, mae sboncen yn arbennig o egnïol. Gall gweithgaredd egnïol sbarduno trawiad gyda rhai pobl.

Yoga

Gall yoga fod o fudd i rai pobl gydag epilepsi. Dywedir ei fod o gymorth i bobl gael y cydbwysedd o ran meddwl a chorff a chynorthwyo wrth ymlacio. Mae gwahanol fathau o yoga. Mae peth tystiolaeth i awgrymu bod pranayama cryf (rheoli’r anadlu) a trataka (syllu ar wrthrych myfyrdod) gael eu hosgoi gan bobl ag epilepsi, gan y gallai hyn sbarduno trawiad.

Am ragor o wybodaeth am yoga cysylltwch â’r British Wheel of Yoga (mae ‘Sports England’ wedi’i gydnabod fel corff llywodraethu cenedlaethol yoga).

Sawna ac ystafell stêm

Mae unrhyw un wrth risg o losgiadau os ydynt yn sâl mewn sawna neu ystafell stêm. Os ydych chi’n dal i brofi trawiad, byddai’n syniad da mynd gyda rhywun a fyddai’n gwybod sut i’ch helpu chi, pe byddech chi’n profi trawiad.

Yn yr awyr

Hedfan awyren breifat

Mae Trwydded Genedlaethol Peilot Preifat (NPPL) yn drwydded hamdden sy’n caniatáu i chi hedfan rhai mathau o awyrennau ysgafn yn y DU. Er mwyn meddu ar NPPL cyfyngedig sy’n caniatáu i chi hedfan ar eich pen eich hun mae’n rhaid eich bod chi heb brofi trawiad ers 12 mis. Er mwyn cludo teithwyr mae’n rhaid eich bod chi heb brofi trawiad ers 10 mlynedd a heb gymryd meddyginiaeth epilepsi yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae gan Awdurdod Hedfan Sifil ragor o wybodaeth am ofynion meddygol ar gyfer trwyddedau peilot.

Plymio o’r awyr (parasiwt)

Dywed Cymdeithas Parasiwt Prydain y gallwch chi blymio o’r awyr mewn tandem (pan fyddwch chi yn sownd wrth rywun proffesiynol) os:
Nad ydych chi wedi profi trawiad am o leiaf dwy flynedd, ac
Nad ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau i’ch meddyginiaeth yn ystod y cyfnod hwn
Bydd yn rhaid i chi gael meddyg i lofnodi tystysgrif feddygol. Nid yw plymio o’r awyr ar eich pen eich hun yn cael ei ystyried yn ddiogel i bobl gydag epilepsi.

Gweler ein hadran Ymgyrchoedd am yr hyn y mae Epilepsy Action yn ei wneud am hyn.

Chwaraeon cyswllt ac eithafol

Paffio

Os oes gennych epilepsi, dywed y rheoliadau eich bod chi’n cael paffio, oni bai eich bod chi wedi profi trawiad yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Serch hynny, mae’n syniad da gofyn i’ch meddyg am gyngor cyn paffio.

Chwaraeon eithafol

Mae plymio ogof, ehedfa llaw (hand gliding), parasiwt, eira-fyrddio a naid bynji yn ychydig o enghreifftiau o chwaraeon eithafol. Mae elfen o berygl i bob chwaraeon eithafol. Felly byddai’n arbennig o bwysig gwirio a fyddai’n ddigon diogel i wneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn os ydych chi’n dal i brofi trawiad. Pa bynnag chwaraeon y byddwch chi’n ei ddewis, fel arfer bydd corff llywodraethu sy’n gosod y rheoliadau diogelwch. Am fanylion y sefydliadau hyn, cysylltwch ag Epilepsi Action.

Crefft ymladd

Os ydych chi’n profi trawiad, byddai’n dda gofyn i’ch meddyg am gyngor cyn ymarfer crefft ymladd. Pa bynnag fath o grefft ymladd y byddwch chi’n ei ddewis, dylech chi sicrhau bod y bobl sy’n gyfrifol yn gwybod am eich epilepsi a beth i’w wneud os byddwch chi’n cael trawiad.

Chwaraeon tîm (gan gynnwys pêl-droed, rygbi, criced a phêl rwyd)

Nid oes tystiolaeth i awgrymu y dylech chi osgoi chwaraeon tîm, cyhyd â’ch bod chi’n cadw at y mesurau diogelwch arferol. Gallai’r mesurau hyn gynnwys gwisgo penwisg arbennig fel yr argymhellir gan y corff chwaraeon swyddogol. Os yw’ch epilepsi wedi’i achosi gan anaf i’r pen, fe allai’ch meddyg eich cynghori chi i osgoi’r mathau hyn o chwaraeon.

Am ragor o wybodaeth ar epilepsi a rygbi, cysylltwch â Chynghrair Pêl-droed Rygbi.

Os hoffech chi weld y wybodaeth hon gyda chyfeiriadau, ymwelwch ag adran gyfeirio Cyngor a Gwybodaeth ein gwefan. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â’n llinell gymorth Epilepsy Action ar 0808 800 5050.

Code: 
OL29.01
Event Date: 
Tuesday 3 April 2018 - 12:07

Epilepsy Action would like to thank Jo Geldard , Epilepsy Nurse Specialist at Leeds General Infirmary, for her contribution to this information.

Jo Geldard has no conflict of interest.

This information has been produced under the terms of The Information Standard.

  • Updated March 2017
    To be reviewed March 2020

There are no comments yet. Be the first to comment...

e-action newsletter

Subscribe to our e-action newsletter and stay informed

Subscribe to e-action newsletter feed