We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn profi trawiad (Welsh)

English

Ar y dudalen hon, dysgwch beth i’w wneud os byddwch chi’n gweld rhywun yn profi trawiad tonig-clonig neu ffocal. Rydym yn esbonio sut y gallwch chi helpu, a phryd y dylech chi alw am ambiwlans.

Trawiad tonig-clonig (gwingiad)

Trawiad tonig-clonig (1) yw’r math o trawiad y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu hadnabod. Roeddent yn arfer cael eu galw yn trawiad grand mal. Mae rhywun sy’n profi trawiad tonig-clonig yn mynd yn anystwyth, yn colli ymwybyddiaeth, yn disgyn i’r llawr ac yn dechrau ysgytio neu’n cyffylsio. Efallai y byddant yn troi’n las o amgylch y geg oherwydd anadlu afreolaidd. Weithiau byddant yn colli rheolaeth ar eu pledren neu’u coluddyn, ac yn cnoi eu tafod neu’r tu fewn i’w ceg.

Dyma sut y gallwch chi helpu os byddwch chi’n profi trawiad tonig-clonig.

Pethau i’w gwneud:

  • Eu diogelu rhag anaf (symud gwrthrychau niweidiol sydd gerllaw)
  • Rhoi clustog o dan eu pennau
  • Edrych am gerdyn adnabod epilepsi neu emwaith adnabod - fe allai roi gwybodaeth i chi am eu trawiad a beth i’w wneud
  • Amserwch ba mor hir mae’r ysgytio yn para
  • Cynorthwywch yr anadlu trwy eu gosod yn ofalus yn y safle adfer unwaith y mae’r ysgytio wedi gorffen (gweler llun)
  • Arhoswch gyda hwy nes eu bod wedi dod at eu hunain yn llwyr
  • Tawelwch eu meddwl yn bwyllog

The recovery position

Peidiwch â::

  • Chyfyngu ar eu symudiadau
  • Rhoi unrhyw beth yn eu ceg
  • Cheisio eu symud oni bai eu bod mewn perygl
  • Rhoi unrhyw beth iddynt i’w fwyta neu i’w yfed nes eu bod wedi gwella’n llawn
  • Cheisio dod â hwy at eu hunain

Galwch am ambiwlans os:

  • Ydych chi’n gwybod mai dyma eu trawiad gyntaf neuor
  • Yw’r ysgytio yn parhau am fwy na phum munud neu or
  • Ydynt yn profi un trawiad tonig-clonig ar ôl un arall heb adfer ymwybyddiaeth rhwng trawiad neu or
  • Ydynt wedi cael anaf yn ystod y trawiad neu or
  • Ydych chi’n credu bod angen sylw meddygol brys arnynt

Trawiad Ffocal

Efallai y clywch y math hwn o trawiad yn cael ei alw yn trawiad rannol. Efallai na fydd rhywun sy’n profi trawiad ffocal (2) yn ymwybodol o’u hamgylchedd neu’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Efallai y byddant yn profi symudiadau ac ymddygiad anarferol megis plycio eu dillad, clecio eu gwefusau, llyncu droeon neu’n crwydro.

Dyma sut y gallwch helpu os byddwch yn gweld rhywun yn profi trawiad ffocal.

Pethau i’w gwneud:

  • Eu tywys oddi wrth berygl (megis ffyrdd neu ddŵr agored)
  • Aros gyda nhw hyd nes eu bod wedi gwella
  • Tawelu eu meddwl yn bwyllog
  • Esbonio unrhyw beth y gallent fod wedi’i golli

Peidiwch â

  • Cheisio’u ffrwyno
  • Gweithredu mewn ffordd a allai eu dychryn, megis gwneud symudiadau sydyn neu weiddi arnynt
  • Chymryd yn ganiataol eu bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd, neu beth sydd wedi digwydd
  • Rhoi unrhyw beth iddynt i fwyta neu yfed hyd nes eu bod wedi gwella’n llawn
  • Cheisio dod â hwy at eu hunain

Galwch am ambiwlans os:

  • Ydych chi’n gwybod mai dyma eu trawiad gyntaf neu or
  • Yw’r trawiad yn parhau am fwy na phum munud neuor
  • Ydynt wedi cael anaf yn ystod y trawiad neuor
  • Ydych chi’n credu bod angen sylw meddygol brys arnynt

Trawiad mewn cadair olwyn

Os yw person gydag epilepsi yn defnyddio cadair olwyn neu ganddo broblemau symudedd, dylai eu Meddyg Teulu neu eu harbenigwr epilepsi roi cynllun gofal iddynt. Dylai gynnwys cyngor ar sut i helpu’r person os ydynt yn profi trawiad.

Dyma beth cyngor cyffredinol ar sut i helpu rhywun sy’n profi trawiad mewn cadair olwyn.

Pethau i’w gwneud:

  • Rhoi’r breciau ymlaen i rwystro’r gadair rhag symud
  • Caniatáu iddynt aros yn eistedd yn y gadair yn ystod y trawiad (oni bai bod y cynllun gofal yn nodi y dylid eu symud). Gallai eu symud arwain at anafiadau posibl i chi ac iddynt hwy
  • Os ydynt yn gwisgo gwregys neu harnais, gadewch hwy wedi’u bachu
  • Os nad oes ganddynt wregys neu harnais, cefnogwch hwy’n ysgafn, fel nad ydynt yn disgyn allan o’r gadair
  • Rhowch glustog wrth eu pennau a’i gefnogi’n ysgafn. Gall ategion pennau, clustog neu got wedi’i rholio fod yn ddefnyddiol

Dylai cynllun gofal y person roi cyngor ar beth i’w wneud ar ôl i’r trawiad orffen. Er enghraifft, fe ddylai ddweud os yw’n ddiogel i’w symud o’r gadair olwyn i’w rhoi yn y safle adfer.

Peidiwch â:

  • Chyfyngu ar eu symudiadau
  • Rhoi unrhyw beth yn eu ceg
  • Rhoi rhywbeth iddynt fwyta neu yfed hyd nes eu bod wedi gwella yn llawn
  • Cheisio dod â hwy at eu hunain

Trawiad yn y dŵr

Ymwelwch â’n tudalen chwaraeon a hamdden (3) i weld beth i’w wneud os yw rhywun yn profi trawiad wrth nofio.

Dysgwch fwy am trawiad

Free online learning

Cymerwch ein modiwl dysgu ar-lein byr (4) i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o trawiad a beth i’w wneud os yw rhywun yn profi un..

Archebwch wybodaeth cymorth cyntaf o siop Epilepsy Action.(5)

Gwybodaeth cymorth cyntaf mewn ieithoedd eraill

Darllenwch wybodaeth i bobl sydd newydd dderbyn diagnosis epilepsi yn Gymraeg::

Gwybodaeth ynghylch epilepsi, yn cynnwys cymorth cyntaf ar gyfer trawiad (Welsh)

Lawrlwythwch wybodaeth cymorth cyntaf yn un o’r ieithoedd a ganlyn:

Środek pierwszej pomocy w przypadku napadów drgawkowych (Polish)

  مرض کے دورہ کے لیے ابتدائی طبی امداد    (Urdu)

Premiers secours pour des crises d'épilepsie (French)

Erste Hilfe bei Krampfanfällen (German)

Primeros auxilios para convulsiones (Spanish)

Code: 
B046.02
Event Date: 
Friday 12 January 2018 - 11:44

Epilepsy Action would like to thank Dr Amanda Freeman, consultant paediatrician and Liz Nelson, Roald Dahl paediatric epilepsy specialist nurse, at Queen Alexandra Hospital, Portsmouth, for their contribution to this information.

Amanda Freeman and Liz Nelson have no conflict of interest to declare.

This information has been produced under the terms of The Information Standard.

  • Updated September 2016
    To be reviewed September 2019

There are no comments yet. Be the first to comment...