We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

Cof ac epilepsi

English

Cynnwys

Rhagarweiniad

Canllaw hunangymorth i wella gweithrediad y cof ymhlith pobl ag epilepsi.

Cydnabyddir yn eang bod pobl ag epilepsi’n cwyno yn aml am broblemau gyda’r cof. Mae’r llyfryn hwn, a ysgrifennwyd gan yr Athro Gus Baker a chydweithwyr ym Mhrifysgol Lerpwl, yn ganllaw hunangymorth clir i broblemau gyda’r cof ymhlith pobl ag epilepsi. Mae’r wybodaeth hon hefyd yn ddefnyddiol i ofalwyr. Mae’n esbonio’r anawsterau y gellir eu hwynebu ac mae’n darparu strategaethau syml a allai helpu’r unigolyn i’w goresgyn.

Beth yw’r cof?

Y cof yw’r gallu i gofio profiad blaenorol a gwybodaeth. Caiff ei rannu’n gof tymor byr a’r cof tymor hir. Mae’r cof tymor byr yn ymdrin â gwybodaeth sydd i’w chofio dros gyfnod o ychydig funudau ac mae’r cof tymor hir yn ymdrin ag unrhyw beth sydd i’w chofio’n hirach na hyn.

Gelwir cofnodi’r cof yn y lle cyntaf yn amgodio. Yna caiff y wybodaeth ei throsglwyddo o’r cof tymor byr i’r tymor hir i’w chadw. Caiff y cof tymor hir ei rannu’n dri math.

  • Cof gweithdrefnol
    Gweithgareddau sy’n cael eu gwneud bron heb feddwl er enghraifft, mynd ar gefn beic.
  • Cof semantig
    Gwybodaeth sydd wedi’i hennill ond nid ydym yn siwr pryd, er enghraifft, prif ddinasoedd.
  • Cof cyfnodol
    Atgofion personol o fywyd bob dydd.

Gellir rhannu’r cof rhwng geiriol a gweledol hefyd. Cof geiriol yw’r gallu i gofio gwybodaeth sy’n cael ei deall yn glywedol, er enghraifft, geiriau a sain. Cof gweledol yw’r gallu i gofio gwybodaeth sy’n cael ei darparu’n weledol, er enghraifft o ran lluniau ac wynebau.

Pan fyddwn am gofio rhywbeth, caiff y wybodaeth y mae ei hangen arnom ei throsglwyddo o’r cof tymor hir i’r cof tymor byr. Adalw gwybodaeth yw’r enw ar hyn.

Os ydym wedi anghofio rhywbeth, gallai fod oherwydd problemau o ran:

  • cofnodi’r atgof yn y lle cyntaf (amgodio)
  • cadw’r atgof (cadw)
  • adennill yr atgof o’r cof tymor hir (adalw).

Beth sy’n achosi problemau gyda’r cof?

Bydd pawb yn angofio rhai pethau i ryw raddau weithiau. Gall hyn ddigwydd pan fyddwn:

  • dan bwysau
  • yn ceisio canolbwyntio ar nifer o bethau ar yr un pryd
  • yn teimlo’n sâl
  • wedi blino.

At hynny, wrth i ni fynd yn hŷn, gallwn anghofio pethau’n amlach. Mae hyn yn gwbl arferol ac nid yw’n ddim byd i boeni amdano.

Fodd bynnag, gall problemau gyda’r cof fod yn fwy difrifol o lawer ac yn gyflwr hirdymor. Gallant gael eu hachosi gan nifer o bethau, er enghraifft:

  • salwch sy’n debyg i ddementia megis clefyd Alzheimer
  • haint i’r ymennydd, er enghraifft enseffalitis
  • diffyg ocsigen i’r ymennydd, fel ym mharlys yr ymennydd
  • anaf i’r pen
  • rhai mathau o strôc
  • tiwmor yr ymennydd neu waedlif i’r ymennydd
  • epilepsi, ar ei ben ei hun neu gydag un o’r uchod.

Mae’n werthfawr cofio y gallai rhai o’n problemau gyda’r cof fod oherwydd problem arall, sy’n arwain at nam ar y cof. Mae rhai enghreifftiau yma.

  • Problem sylw. Os na fyddwn yn talu sylw at y wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno i ni, yna ni fydd ein cof yn cofnodi’r wybodaeth hon.
  • Problem iaith. Weithiau wrth drafod, rydym yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r gair rydym yn chwilio amdano. Gellir camddehongli hyn fel anghofio geiriau.
  • Gofid ac iselder. Mae pobl â chyflwr emosiynol gwahanol yn cael anawsterau gyda’r cof, yn aml. Gall y rhai sy’n profi gofid weld bod eu meddwl yn rhy llawn o feddyliau pryderus i ganolbwyntio ar bethau o’u hamgylch. Gall y rhai â hwyliau isel deimlo’n swrth ac yn isel o ran cymhelliant, ac felly ni fydd ganddynt y sylw sydd ei angen arnynt i gofnodi atgof.
  • Tarfu ar gysgu. Os nad ydym yn cael digon o gwsg, yna gallwn gael anhawster i ganolbwyntio, sy’n tarfu ar ein gallu i ganolbwyntio ar wybodaeth.

Anawsterau gyda’r cof ymhlith pobl ag epilepsi

Mae presenoldeb anawsterau gyda’r cof ymhlith pobl ag epilepsi wedi’i gydnabod yn eang. Mewn gwirionedd, mae pobl ag epilepsi’n gofyn am gymorth oherwydd problemau gyda’r cof yn amlach nag ar gyfer unrhyw nam arall. Mae ymchwil wedi dangos bod rhan fawr o’r cof wedi’i lleoli mewn rhan benodol o’r ymennydd o’r enw fel llabed yr arlais.

Llabed yr arlais

Mae nifer o resymau pam y gallai pobl ag epilepsi gael anawsterau gyda’r cof.

  • Gall trawiadau epileptig effeithio ar allu’r cof gan fod angen i’r ymennydd fonitro ei hun yn barhaus er mwyn iddo weithio’n briodol. Gall trawiad darfu ar y system hunanfonitro hon. Gall atgofion cyn trawiad gael eu colli, gan nad ydynt wedi’u hymgorffori’n llawn yn system ein cof. Yn ystod trawiad, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn effeithio ar ein cof, gan y gall mynd yn anymwybodol ymyrryd â phrosesau arferol yr ymennydd, a tharfu ar amgodio a chadw gwybodaeth. Gall y dryswch sy’n gallu codi yn dilyn trawiad atal ein cof rhag gweithio’n briodol hefyd. Gall rhai pobl ag epilepsi brofi gweithgarwch trydanol anarferol yn yr ymennydd rhwng trawiadau a gall hyn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio a gweithrediad y cof.
  • Gall tiwmor neu anaf ar yr ymennydd darfu ar broses y cof. Felly os caiff tiwmor neu anaf ar yr ymennydd ei leoli yn llabed yr arlais, sydd hefyd yn rhan o’r ymennydd sydd ei hangen i gofio, gallai hyn achosi problemau ar y cof.
  • Mae’n bosibl y bydd rhai meddyginiaethau gwrthepileptig yn ymyrryd â gweithrediad y cof gan y gallant effaithio ar gyflymdra’r ymennydd i brosesu gwybodaeth. Ar y llaw arall, gallant leihau amlder trawiadau hefyd ac fel rydym wedi trafod, gall trawiadau cyson achosi nam ar y cof. Os ydych yn poeni y gallai eich meddyginiaeth effeithio ar eich cof, mae’n bwysig siarad â’ch meddyg am eich pryderon. Gall ymchwilio i’r posibilrwydd hwn a bydd yn trafod atebion posibl gyda chi.

Faint o bobl sy’n cael eu heffeithio gan broblemau gyda’r cof?

Gall problemau gyda’r cof effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n bosibl bod problemau cof unigolyn yn gyffredinol iawn, ac felly eu bod yn effeithio ar weithrediad y cof ymhob ffordd bron.

Fodd bynnag, gallant fod yn benodol iawn ac mae’n bosibl eu bod yn effeithio ar un agwedd ar weithrediad y cof, megis cofio’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthych.

Gall problemau gyda’r cof achosi ystod o anawsterau, sy’n ei gwneud yn anodd ymdopi â bywyd bob dydd a chydberthnasau. Gall yr anawsterau hyn achosi llawer iawn o ofid i’r unigolyn dan sylw. Fodd bynnag, er nad oes modd rhoi iachâd ar gyfer problem gyda’r cof, mae’n bosibl ymaddasu at gael nam ar y cof, gan ei gwneud yn haws ymdopi â byw bywyd cymharol arferol.

Asesiad cof niwroseicolegol

Er mwyn cael asesiad cywir o weithrediad eich cof, mae’n bosibl y bydd y meddyg yn awgrymu cynnal asesiad niwroseicolegol. Mae niwroseicolegol yn golygu edrych ar y prosesau y mae’r ymennydd yn eu cyflawni, ac mae’r cof yn un o’r rhain. Nod yr asesiad hwn yw rhoi syniad cywir o ba mor dda y mae eich cof yn gweithredu ar hyn o bryd. Caiff ei gynnal gan seicolegydd. Bydd yn edrych ar bob agwedd ar allu eich cof. Yn fwy penodol, bydd yn edrych ar eich gallu i gofio lluniau, straeon a rhifau. Drwy edrych ar yr agweddau hyn, bydd y seicolegydd yn gallu darganfod lle mae eich anawsterau ar y cof ac a oes unrhyw wahaniaeth rhwng:

  • eich cof gweledol (eich gallu i gofio lluniau);
  • cof geiriol (eich gallu i gofio gwybodaeth a gyflwynir ar lafar).

Yna mae’r wybodaeth hon yn pwysleisio pa strategaethau gwella’r cof sy’n mynd i fod yn fwyaf defnyddiol i chi.

Strategaethau gwella’r cof

Mae’n bosibl dod o hyd i ffyrdd o addasu at fyw gyda phroblemau gyda’r cof. Gellir defnyddio dulliau amrywiol i helpu pobl â phroblemau ar y cof i gadw ac adalw atgofion yn fwy effeithiol. Ymhlith y ffyrdd posibl o wneud hyn mae:

  • cadw at drefn benodol
  • addasu’r hyn o’ch amgylch
  • defnyddio cymhorthion cof allanol
  • defnyddio ‘cofyddiaeth’
  • gwella lles yn gyffredinol.

Gellir cyfuno strategaethau i’ch helpu i addasu i fyw gyda phroblemau ar y cof.

Bydd yr adran ganlynol yn amlinellu’r strategaethau hyn yn fanylach. Mae’n debygol o gymryd peth amser i arfer â’r strategaethau amrywiol sy’n gallu gwella eich cof. Gallai fod rhywfaint o ‘hap a damwain’, a bydd yn gofyn am ymdrech ar eich rhan chi. Fodd bynnag, mae profiad wedi dangos unwaith y caiff eu hymgorffori yn eich ffordd o fyw, gall y strategaethau hyn fod yn hynod effeithiol a buddiol. Mae’n werth nodi yma mai’r hyn sy’n sicrhau bod y strategaethau hyn yn gweithio’n effeithiol yw bod yn drefnus a sefydlu trefn, gan fod hyn yn lleihau’r galwadau ar eich cof.

Cadw at drefn benodol

Ni ellir pwysleisio digon pa mor bwysig yw cadw at drefn o ran gwella eich cof. Mae cadw at drefn yn golygu eich bod yn gallu arfer â’r hyn i’w ddisgwyl, sy’n helpu i leihau’r galwadau ar eich cof. Mae llawer o bobl yn ei chael yn ddefnyddiol rhestru eu gweithgareddau rheolaidd yn eu dyddiadur neu ar y calendar. Hefyd, gall gwneud pethau ar adegau penodol o’r dydd bob dydd, er enghraifft cymryd meddyginiaeth gyda brecwast bob amser helpu rhai pobl.

Addasu’r hyn o’ch amgylch

Drwy addasu’r hyn o’ch amgylch, bydd llai o angen i chi ddefnyddio eich cof, ac felly mae hyn yn lleihau’r anawsterau y gallwch eu cael. Gellir cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd:

  • cadw papur nodiadau wrth y ffôn i gofnodi negeseuon
  • defnyddio hysbysfwrdd ar gyfer gwybodaeth bwysig
  • cael lle penodol i gadw pethau ynddo, megis allweddi a sbectol, a’u rhoi yn yr un lle bob amser
  • labelu cypyrddau i’ch atgoffa am yr hyn sy’n cael eu cadw ynddynt.

Gall pobl o’ch amgylch helpu gyda hyn drwy newid sut maent yn gwneud pethau, neu sut maent yn ymateb i chi fel unigolyn â nam ar y cof.

Defnyddio cymhorthion cof allanol

Mae ystod eang o gymhorthion cof allanol a’r peth pwysicaf yw dewis rhywbeth rydych yn teimlo’n gyfforddus ag ef. Ni fydd yr hyn sy’n gweddu i un unigolyn yn gweddu i un arall o reidrwydd. Er enghraifft, gallai lluniau neu ddiagramau fod yn fwy defnyddiol i bobl y mae darllen yn anodd iddynt.

Cymhorthion cof posibl

  • dyddiadur/calendr
  • llyfr nodiadau
  • rhestrau, er enghraifft rhestrau siopau
  • cloc larwm neu amserydd
  • ffôn symudol â larwm
  • siart wal neu fwrdd memo
  • recordydd tâp neu ddictaffon
  • trefnydd electronig
  • galwr electronig
  • blwch atgoffa am dabledi
  • nodiadau Post-It
  • albwm lluniau neu lyfr cof

Gall arfer â chymhorthion cof newydd fod yn anodd a gallai gymryd ychydig amser i hyn ddigwydd. Fodd bynnag, po fwyaf y byddwch yn defnyddio cymhorthion cof, hawsaf yn y byd y bydd i chi eu hmgorffori yn eich bywyd bob dydd. Yn y diwedd, bydd yn digwydd fel ail natur.

Gall fod yn haws defnyddio cymhorthion cof rydych yn fwy cyfarwydd â nhw. Er enghraifft, os ydych yn hoffi defnyddio technoleg fodern, yna mae’n bosibl y byddwch o’r farn bod dyddiaduron personol a dyddiaduron cyfrifiadurol yn gweithio i chi. Fodd bynnag, os nad ydych yn hoff o gyfrifiaduron, gallai dulliau pin a phapur megis dyddiaduron a chalendrau fod yn haws eu defnyddio.

Cofyddiaeth

Mae cofyddiaeth yn gymorth geiriol neu weledol sy’n ein helpu i gofio gwybodaeth, ar ffurf dywediadau, rhigymau neu luniau. Er enghraifft, er mwyn cofio lliwiau’r enfys, mae rhai pobl yn defnyddio’r rhigwm Saesneg:

Richard Of York Gave Battle In Vain

Red Orange Yellow Green Blue Indigo Violet.

Mae rhai pobl yn gweld y gall paru eitemau fod yn ddefnyddiol; mae un dull o’r fath yn hysbys fel dull y pegiau. Caiff ‘pegiau’ eu defnyddio i’ch helpu i gofio rhestr o eitemau. Caiff pob rhif anogair gweledol sy’n odli – ‘un – lun, dau – cau, tri – cri, ac ati. Gan ddefnyddio’r dull hwn, byddwch yn dychmygu’r peth cyntaf rydych am ei gofio a’i gysylltu â llun. Mae pobl eraill yn ceisio cofio gwybodaeth ar ffurf stori maent wedi’i chreu. Awgrymiadau o ddulliau y gallech eu defnyddio yn unig yw’r rhain. Yn aml y peth gorau i’w wneud yw bod yn ddychmygus a chreu rhai sy’n bersonol berthnasol ac sy’n gweithio i chi.

Cyfuno amrywiaeth o strategaethau i wella’r cof

Yn aml, gall pobl ag anawsterau gyda’r cof ei chael yn ddefnyddiol defnyddio nifer o gymhorthion neu strategaethau, fel y bydd dull wrth gefn os bydd dull arall yn methu. Mae ysgrifennu ar y calendr a defnyddio larwm i’ch atgoffa am apwyntiad yn un enghraifft. Gall gymryd amser i sefydlu system gofio ond, wedi iddi gael ei sefydlu a’i defnyddio’n aml, gall fod yn effeithiol iawn.

Gwella lles

Wrth fyw gyda phroblemau ar y cof, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n agored i niwed ac yn ansicr o’ch hun yn aml. O ystyried anawsterau ymarferol problemau gyda’r cof, mae’n bosibl y byddwch yn profi peth gofid. Felly gall rheoli gofid a defnyddio technegau ymlacio fod yn fuddiol. Bydd eich meddyg teulu’n gallu rhoi cyngor i chi ar ble y gallwch gael gwybodaeth am hyn. Gall ffactorau sy’n achosi dirywiad yn eich lles gynnwys colli eich trefn ddyddiol (er enghraifft colli eich swydd) neu golli annibyniaeth, statws neu rôl yn gyffredinol. Gall fod yn waeth os oes ffactorau eraill yn bresennol, megis anallu i yrru a dibynadwyedd ar eraill. Gallwch wella eich lles mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft drwy ddatblygu gweithgareddau neu hobïau newydd. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd siarad ag eraill sy’n cael problemau tebyg ac i ganfod a oes unrhyw sefydliadau neu grwpiau cymorth yn yr ardal a allai fod yn ddefnyddiol.

Problemau penodol gyda’r cof

Ymhlith rhai o’r anawsterau mwyaf cyffredin y gall pobl â nam ar y cof eu cael mae:

  • cofio i wneud rhywbeth
  • cofio enwau pobl
  • cofio ymhle rydych wedi rhoi rhywbeth
  • cofio’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthych
  • cofio’r hyn rydych yn ei ddarllen
  • cofio sut i gyrraedd rhywle.

Bydd yr adran ganlynol yn amlinellu sut y gellir ymdopi â’r problemau hyn yn haws ac yn dweud wrthych pa strategaethau sy’n gweithio’n dda ar gyfer problemau penodol. Dim ond awgrymiadau i roi syniad i chi yw’r rhain ac mae’n bosibl y byddwch yn meddwl am rai eraill sy’n fwy defnyddiol i chi.

Cofio i wneud rhywbeth

  • Gadewch bethau yng nghyntedd blaen eich cartref cyn i chi fynd allan, er enghraifft, llythyrau y mae angen i chi eu postio.
  • Gellir rhaglennu oriorau neu drefnyddion electronig i seinio larwm ar amseroedd penodol i’ch atgoffa i wneud rhywbeth.
  • Os yw’n bosibl, gwnewch bethau ar unwaith yn hytrach nag yn ddiweddarach.
  • Cadwch bin a phapur wrth law bob amser.
  • Defnyddiwch ddyddiaduron, siartiau wal a chalendrau.

Yn aml, mae pobl yn anghofio a ydynt wedi gwneud tasg benodol (megis cloi’r drws). Un ffordd o wella’r math hwn o gof yw dweud yn uchel yr hyn rydych yn ei wneud wrth i chi ei wneud.

Cofio enwau pobl

Cofnodi’r wybodaeth

  • Gwrandewch yn ofalus.
  • Os yw’r enw yn anarferol, gofynnwch iddynt ei sillafu.
  • Meddyliwch p’un a ydych yn hoffi’r enw ai peidio.
  • Os cewch eich cyflwyno i nifer o bobl, gwnewch esgus i adrodd eu henwau’n ôl, er enghraifft “Gadewch i mi sicrhau fy mod wedi cael eich enwau’n gywir.."
  • Ceisiwch ddefnyddio’r enw mor aml â phosibl yn eich sgwrs gychwynnol, er enghraifft “Braf cwrdd â chi John”. Pan fyddwch yn ffarwelio, ailadroddwch yr enw.
  • Ailadroddwch yr enw ar ôl ychydig. A chofiwch, mae’r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau clywed ei enw’n cael ei ddweud.
  • Os yw’n enw dieithr, newidiwch y ffordd y mae’n swnio i wneud iddo swnio’n fwy ystyrlon i chi.
  • Rhannwch enw hir yn eiriau byrrach.
  • Mae’n bosibl y bydd yn haws paru rhai enwau â delwedd weledol, er enghraifft, Mr Butcher.
  • Ffurfiwch gysylltiad rhwng yr unigolyn rydych yn cwrdd ag ef a rhywun rydych yn ei adnabod gyda’r un enw, neu unigolyn enwog. Ceisiwch ddod o hyd i rai cyffelybiaethau.
  • Parhewch i ymarfer yr enwau rydych yn eu dysgu bob ychydig o oriau neu ddyddiau.
  • Ceisiwch gysylltu’r enw gyda nodwedd amlwg ar wyneb yr unigolyn.

Cofio’r enw

  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu!
  • Meddyliwch am bob llythyren o’r wyddor yn eu tro i weld a ydynt yn eich atgoffa am enw’r unigolyn.
  • Meddyliwch am y sefyllfa lle y gwnaethoch ddysgu’r enw am y tro cyntaf, ac unrhyw beth am y sefyllfa y gallech fod wedi’i gysylltu â’r enw.
  • Dywedwch rywbeth fel “Rwy’n eich cofio chi’n dda iawn ond rwy’n cael trafferth cofio eich enw”.
  • Ysgwydwch law a dywedwch eich enw eich hun; mae’n bosibl y byddant yn ailadrodd eu henw nhw yn reddfol. Os na fydd unrhyw beth arall yn gweithio, gallwch sgwrsio heb ddweud eu henw.

Cofio lle rydych wedi rhoi rhywbeth

  • Ceisiwch fod yn drefnus. Treuliwch ychydig o amser bob dydd yn rhoi pethau yn ôl yn eu priodle. Dylech bennu mannau penodol ar gyfer pethau.
  • Gwnewch restr o bethau rydych yn eu colli yn eithaf aml a cheisiwch eu rhoi yn ôl i’w priodle fel mater o drefn.
  • Stopiwch a meddyliwch bob tro y byddwch yn rhoi rhywbeth i ffwrdd. Dylech ganolbwyntio am ychydig eiliadau ac edrychwch yn benodol ar le y byddwch yn ei roi.
  • Ceisiwch ddod o hyd i gysylltiad rhwng y gwrthrych a lle rydych yn ei roi. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi eich allweddi mewn cwpan, dychmygwch eich hun yn yfed gydag allwedd fawr yn eich llaw yn hytrach na chwpan. Dylai hyn helpu pan fyddwch yn ceisio cofio ymhle y gwnaethoch roi’r allwedd.
  • Pan fyddwch yn parcio’r car, ceisiwch ei barcio ger yr allanfa neu wrth beiriant tocynnau, ac yna edrychwch arno ychydig o weithiau wrth i chi gerdded i ffwrdd gan ganolbwyntio ar ble y gwnaethoch ei adael.
  • Wedi i chi roi rhywbeth i ffwrdd, ceisiwch feddwl amdano a ble rydych wedi’i roi bob hyn yn hyn. Ceisiwch wneud y cyfnodau amser y byddwch yn meddwl am hyn ychydig o hirach bob tro.

Cofio’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthych

  • Ysgrifennwch y neges i lawr. Mae’n ddefnyddiol gwneud hyn mewn ffordd drefnus ac ystyrlon. Gallech wneud i rannau o’r neges sefyll allan drwy ysgrifennnu mewn lliw gwahanol neu drwy danlinellu.
  • Ceisiwch feddwl am yr hyn rydych yn ei glywed, er enghraifft, ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno?
  • Wrth geisio cofio rhifau, dylech eu grwpio gyda’i gilydd, er enghraifft gellid cofio 2-7-4 fel dau gant saith deg a phedwar. Gellir cofio rhifau ffôn mewn ffordd debyg. Neu ceisiwch ddod o hyd i ystyr i’r rhif. Er enghraifft, gallai 2-7-4 fod yn benblwydd ar rywun (27 Ebrill) – 27-4.
  • Yn achos rhestr o bethau y mae rhywun wedi gofyn i chi eu gwneud neu eu prynu, gall fod yn ddefnyddiol ceisio â chysylltu eitemau yn y rhestr â’i gilydd. Gellir cyflawni hyn drwy grwpio rhai eitemau ynghyd gan ddibynnu ar y categori maent yn perthyn iddo neu o bosibl defnyddio llythyren gyntaf pob eitem i wneud gair. Felly os ydych am gofio i gael bara, wyau, siwgr a the, gallech ddefnyddio’r gair ‘best’ yn Saesneg. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol cysylltu’r gair hwn â pha le rydych yn mynd iddo, felly gallech ddychmygu George Best yn chwarae pêl-droed yn eich archfarchnad leol. Mae cysylltiadau mwy anarferol fel arfer yn llai tebygol o aros yn y cof.
  • Os ydych wedi anghofio neges, yna ceisiwch gofio manylion amdani, megis pwy y gwnaeth ei rhoi i chi, ymhle yr oeddech pan gawsoch y neges a’r hyn roeddech yn ei wneud ar y pryd. Mae’n bosibl y bydd hyn yn eich atgoffa.

Cofio’r hyn rydych yn ei ddarllen

  • Yn gyffredinol, mae’n ddefnyddiol ceisio grwpio’r deunydd rydych yn ei ddarllen fesul is-benawdau ac yna ewch dros yr is-benawdau bob tro y byddwch yn darllen y deunydd.
  • Defnyddiwch bin amlygu i liwio brawddegau pwysig.
  • Rhowch eich gallu i gofio’r wybodaeth rydych newydd ei darllen ar brawf ac ailadroddwch hyn bob hyn a hyn.
  • Darllenwch drwy’r deunydd unwaith eto a chanolbwyntiwch ar y wybodaeth rydych wedi’i hanghofio.
  • Gellir defnyddio’r dull canlynol:
    • Rhagolwg
      Darllenwch dros y wybodaeth i gael syniad cyffredinol o’r hyn sy’n cael ei ddweud.
    • Holi
      Penderfynwch ar gwestiynau rydych am eu hateb wedi i chi ddarllen y wybodaeth ac ysgrifennwch y rhain i lawr.
    • Adolygu
      Ailddarllenwch y wybodaeth.
    • Datgan
      Crynhowch y pwyntiau pwysicaf.
    • Profi
      Rhowch eich hun ar brawf i weld a allwch ateb y cwestiynau y gwnaethoch eu rhestru i chi ei hun yn gynharach.

Cofio sut i gyrraedd rhywle

  • Cynlluniwch eich taith a defnyddiwch fap clir neu gyfarwyddiadau. Penderfynwch a ydych yn hapusach gyda map neu gyfarwyddiadau ysgrifenedig.
  • Nodwch unrhyw adeiladau mawr y byddwch yn mynd heibio iddynt ar y ffordd.
  • Os byddwch yn mynd ar goll, peidiwch â chynhyrfu. Ceisiwch fynd yn ôl dros eich cyfarwyddiadau i weld lle rydych wedi gwneud camgymeriad.
  • Cymerwch rif ffôn rhywun a allai eich helpu os byddwch yn mynd ar goll, a chofiwch y gallwch ofyn i rywun yn yr ardal am gymorth.

Crynodeb

Byddwch yn drefnus

  • Dylech gadw at drefn benodol, gyda phethau penodol ar adegau penodol o’r dydd.
  • Byddwch yn drefnus – dylech gadw lle i bopeth a rhoi popeth yn ei le.
  • Defnyddiwch labeli os oes angen.

Cyngor cyffredinol

  • Dylech gael noson dda o gwsg a dylech wneud tasgau anodd pan fyddwch yn teimlo’n ffres a phan nad oes gormod o bethau i dynnu eich sylw oddi arnynt.
  • Ceisiwch beidio â gwneud gormod o bethau ar unwaith. Gwnewch weithgareddau mawr un cam ar y tro.
  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu a dylech osgoi sefyllfaoedd dyrys. Os byddwch yn anghofio gwneud rhywbeth, peidiwch â digalonni’n ormodol am y peth. Ceisiwch gadw pethau mewn persbectif.

Ffyrdd gwell o gofio

  • Os oes angen i chi gofio rhywbeth, ewch drosto yn eich meddwl yn rheolaidd.
  • Ceisiwch weld ystyr yn y pethau y mae’n rhaid i chi eu cofio – defnyddiwch gofyddiaeth a gwnewch gysylltiadau.
  • Os na allwch gofio rhywbeth, ceisiwch feddwl am gysylltiadau a allai gynorthwyo eich cof.

Cyngor i helpwyr

Mae’r llyfryn hwn wedi’i ysgrifennu’n bennaf i rywun sydd ag epilepsi a phroblemau gyda’r cof. Os ydych yn agos at rywun sydd ag epilepsi a phroblemau ar y cof, gallai helpu i wella eich dealltwriaeth o’r anawsterau sy’n eu hwynebu a sut y gellid mynd i’r afael â hwy. Gallwch helpu, p’un a ydych yn berthynas agos, ffrind neu’n gydweithiwr, drwy gadw at y canllawiau syml hyn:

Dylech

  • Geisio deall eu hanawsterau.
  • Bod ychydig yn fwy amyneddgar na’r arfer.
  • Eu cefnogi drwy dderbyn y ffyrdd y maent yn ceisio ymdopi â’u hanawsterau ar y cof.
  • Addasu eich ffordd o uniaethu â hwy.

Ni ddylech

  • Nawddogi na gwneud popeth iddynt.
  • Gofyn gormod ohonynt na bod â disgwyliadau uchel sy’n gofyn iddynt alw llawer i gof.
  • Tacluso na rhoi pethau i ffwrdd os bydd hynny’n tarfu ar eu ffordd hwy o ymdopi.
  • Torri ar eu traws pan fyddant yn siarad neu’n canolbwyntio ar rywbeth.

Am y wybodaeth hon

Lluniwyd y cyhoeddiad hwn gan Epilepsi Action ar y cyd â Phrifysgol Lerpwl. Cafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol gan yr Athro Gus Baker, Amy J Hothersall a Jenna E Mallows a’i ddiweddaru gan yr Athro Gus Banker gydag arweiniad a chyfraniad gan bobl sy’n byw ag epilepsi.

Datgeliad

Nid yw buddiannau’r Athro Gus Baker yn gwrthdaro.

Ymwadiad

Mae Epilepsy Action yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth yn ei gyhoeddiadau ond ni all fod yn atebol am unrhyw gamau gweithredu a gymerir yn seiliedig ar y wybodaeth hon.

Adborth

Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y daflen ffeithiau hon, byddem yn hynod falch o glywed gennych. Gallwch gysylltu â ni hefyd os hoffech wybod o ble y cawsom ein gwybodaeth.

Rhif y llyfryn: B099.02

Lluniwyd y llyfryn: Ionawr 2011

Dyddiad adolygu’r llyfryn: Ionawr 2013

Am Epilepsy Action

I gael rhagor o wybodaeth am epilepsi, cysylltwch â ni yn unrhyw un o’r ffyrdd a ddisgrifir isod.

Epilepsy Helpline 

rhadffon 0808 800 5050

testun 07797 805 390

helpline@epilepsy.org.uk

www.epilepsy.org.uk/cymraeg

Epilepsy Action, New Anstey House, Gate Way Drive, Yeadon, Leeds LS19 7XY. 

Ffôn: 0113 210 8800. Ffacs: 0113 391 0300. 

Cwmni a gyfyngir gan warant (Rhif Cofrestru yn Lloegr 797997) Elusen Gofrestredig yn Lloegr (Rhif. 234343). 

© Hawlfraint Epilepsy Action. 

Event Date: 
Monday 19 January 2015 - 11:47

There are no comments yet. Be the first to comment...