We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

Epilepsi: chwaraeon a hamdden

English 

Rhagarweiniad

Mae cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn bwysig i bawb, gan gynnwys pobl ag epilepsi. Mae’r llyfryn hwn yn edrych ar nifer o weithgareddau chwaraeon a hamdden mewn perthynas ag epilepsi. 

Gweithgareddau chwaraeon a hamdden ac epilepsi

Gyda’r cymorth cywir a’r rhagofalon diogelwch perthnasol, nid oes llawer y dylai rhywun ag epilepsi angen ei osgoi. Mae llawer o bobl ag epilepsi’n rheoli eu trawiadau yn gyfan gwbl gyda meddyginiaeth wrthepileptig ac nid oes angen iddynt gymryd mwy o ragofalon diogelwch nag unrhyw un arall. 

Mae rhai pobl yn dweud pan fyddant yn weithgar eu bod yn llai tebygol o gael trawiadau. Felly, i rai pobl ag epilepsi, gall cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden fod o fudd mawr i’w hepilepsi. Mae nifer fach iawn o bobl ag epilepsi yn gweld bod gwneud ymarfer corff egnïol yn cynyddu eu tebygbolrwydd o gael trawiadau.

Dweud wrth bobl am eich epilepsi

Er mwyn cymryd rhan mewn rhai chwaraeon neu weithgareddau, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi ffurflen feddygol. Dim ond i helpu’r trefnydd i gynnal asesiad risg ac os bydd angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol y dylid defnyddio’r wybodaeth hon. Fodd bynnag, os yw eich epilepsi yn annhebygol o effeithio ar eich diogelwch chi a diogelwch eraill, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo nad oes rhaid i chi ddweud wrth neb  am eich epilepsi. Cysylltwch ag Epilepsy Action i gael rhagor o wybodaeth am y mater hwn.

Siarad â’ch meddyg

Mae’n syniad da siarad â’ch meddyg cyn rhoi cynnig ar chwaraeon neu weithgareddau newydd, yn enwedig os nad yw’ch trawiadau dan reolaeth.  Dyma rai o’r pethau y gallech fod am eu trafod gyda’ch meddyg.

  • Pa mor aml rydych yn cael trawiadau.
  • Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cael trawiadau.
  • Os ydych yn cael rhybudd cyn trawiad.
  • Pa mor hir mae eich trawiadau yn para fel arfer.
  • Os oes pethau sydd yn eich arwain at gael trawiadau (er enghraifft goleuadau’n fflachio, cyffroi a diffyg cwsg).
  • Pa risg y gallai fod i chi a phobl eraill pe baech yn cael trawiad yn ystod y gweithgaredd.
  • Pa gymorth a fyddai ar gael pe bai ei angen arnoch.

Rhai gweithgareddau

Dringo

Mae uchder yn berygl posibl i unrhyw un ag epilepsi. Nid yw hyn yn golygu na ddylech ddringo o reidrwydd. Ond bydd angen i chi feddwl yn ofalus am eich diogelwch a diogelwch pobl eraill sydd gyda chi yn eich grŵp dringo. Os ydych yn cael trawiadau o hyd, mae’n bosibl y bydd angen i chi ystyried osgoi’r math hwn o chwaraeon, hyd nes y bydd eich trawiadau dan reolaeth.

Beicio

Mae rhagofalon diogelwch arferol i feicwyr, megis gwisgo dillad gwelededd uchel a phenwisg amddiffynnol, yn hynod bwysig os oes gennych epilepsi a’ch bod am feicio. Os ydych yn cael trawiadau o hyd, ceisiwch osgoi beicio ar ffyrdd prysur. Os bydd gennych drawiadau rheolaidd, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu osgoi beicio ar ffyrdd cyhoeddus yn gyfan gwbl, hyd nes i chi gael eich trawiadau dan reolaeth yn well.

Chwaraeon eithafol

Mae plymio ogofâu, barcuta, parasiwtio, eirafyrddio a neidio â rhaff ymhlith ychydig o enghreifftiau o chwaraeon eithafol yn unig. Pa chwaraeon bynnag y byddwch yn eu dewis, mae corff llywodraethu fel arfer sy’n gosod y rheoliadau diogelwch. Cysylltwch ag Epilepsy Action am ragor o wybodaeth.

Pysgota

Os yw eich trawiadau dan reolaeth yn gyfan gwbl, mae angen i chi ystyried y rhagofalon diogelwch cyffredinol ar gyfer pysgota. Os nad yw eich trawiadau dan reolaeth, ni ddylech bysgota ar eich pen eich hun a sicrhewch fod yr unigolyn sydd gyda chi’n gwybod beth i’w wneud os byddwch yn cael trawiad. Mae gwisgo siaced achub yn hanfodol os oes perygl o gwympo i mewn i’r dŵr.

Y Gampfa

Os yw eich trawiadau wedi bod gan reolaeth yn gyfan gwbl am gryn amser, dylech allu defnyddio unrhyw ddarn o offer yn y gampfa. Os ydych yn dal i fod mewn perygl o gael trawiadau, mae’n bosibl bod offer na ddylech eu defnyddio er mwyn osgoi anaf i chi eich hun neu bobl eraill. Gallech drafod hyn gyda’r staff yn y gampfa a gofyn am asesiad diogelwch.

Cerdded a chrwydro

Nid oes unrhyw reswm pam y dylai epilepsi eich atal rhag mynd i gerdded neu grwydro. Os nad yw eich trawiadau dan reolaeth, mae’n syniad da mynd â rhywun gyda chi sy’n gwybod beth i’w wneud os byddwch yn cael trawiad. Mae gan Gymdeithas y Cerddwyr wybodaeth am agweddau diogelwch ar grwydro a cherdded i bobl ag epilepsi. Cysylltwch ag Epilepsi Action am eu manylion.

Marchogaeth

Gall marchogaeth fod yn ddiogel i bobl y mae eu trawiadau dan reolaeth, neu sy’n cael digon o rybudd cyn trawiad bob tro. Os nad yw eich trawiadau dan reolaeth ac y gallant arwain atoch yn cwympo oddi ar y ceffyl, mae’n bosibl y byddwch yn gallu marchogaeth o hyd. Fodd bynnag, byddai angen i rywun gerdded wrth ymyl y ceffyl i’ch goruchwylio’n agos.

Jacuzzi, sawna ac ystafell stêm

Nid oes unrhyw reswm pam na ddylech ddefnyddio’r rhain. Fodd bynnag, os nad yw eich trawiadau dan reolaeth, gallech fynd â rhywun gyda chi a fyddai’n gwybod sut i’ch helpu, pe baech yn cael trawiad.

Crefftau ymladd

Os ydych yn cael trawiad, y peth gorau i’w wneud yw gofyn i’ch meddyg am gyngor cyn gwneud crefftau ymladd. Pa fath o grefftau ymladd bynnag y byddwch yn eu dewis, dylech sicrhau bod y bobl sy’n gyfrifol yn gwybod am eich epilepsi a beth i’w wneud os ydych yn cael trawiad.

Rhedeg a loncian

Os byddwch yn mynd i redeg neu loncian, mae’n bosibl y byddwch am ystyried cymryd rhai rhagofalon diogelwch ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cadw at lwybrau wedi’u goleuo’n dda a llwybrau di-draffig. Os nad yw eich epilepsi dan reolaeth, dylech fynd â rhywun arall gyda chi yn ddelfrydol a/neu fod â ffôn symudol gyda chi i ffonio am gymorth os bydd angen.

Sgwba-blymio

Mae Clwb Dan Ddŵr Prydain (BSAC) yn argymell eich bod yn rhydd o drawiadau tra eich bod yn effro ac nad ydych yn cymryd meddyginiaeth am bum mlynedd os ydych am sgwba-blymio. Os ydych ond yn cael trawiadau pan fyddwch yn cysgu, dylech fod yn rhydd o drawiadau a heb feddyginiaeth am dair blynedd.

Sgïo

Gall pobl ag epilepsi fwynhau sgïo traws gwlad ac i lawr rhiw. Fodd bynnag, os nad yw eich trawiadau dan reolaeth, dylech osgoi sgïo i lawr rhiw. Mae hyn oherwydd y byddai’n beryglus pe baech yn cael trawiad. Os ydych yn mynd i wneud sgïo traws gwlad, ewch â rhywun sy’n gwybod beth i’w wneud pe baech yn cael trawiad.

Sboncen

Nid oes unrhyw ragofalon diogelwch penodol. Ond os ydych yn dal i gael trawiadau, byddai’n syniad da sôn wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau chwarae sboncen. Yn ogystal â pherygl posibl o’r offer pe baech yn cael trawiad, mae sboncen yn hynod egnïol. Gall gweithgarwch egnïol arwain at rai pobl yn cael trawiadau.

Nofio

Os yw eich trawiadau dan reolaeth yn gyfan gwbl, nid oes angen i chi gymryd mwy o ragofalon diogelwch nag unrhyw un arall. Os ydych yn dal i gael trawiadau, mae angen i chi ystyried rhagofalon diogelwch. Er enghraifft:

  • Gofyn am gyngor gan eich meddyg neu’ch nyrs epilepsi. Trafodwch faterion megis math(au) eich trawiadau, eu hamlder ac unrhyw ffactorau eraill a allai effeithio ar eich diogelwch wrth nofio
  • Lle y bo’n bosibl, ewch â rhywun gyda chi i’r dŵr.  
  • Siaradwch â staff eich cyfleusterau nofio lleol am unrhyw ofynion arbennig a allai fod gennych.
  • Defnyddiwch gymorth arnofio/hynofedd.
  • Meddyliwch am ddiogelwch bob amser.
  • Os oes achubwr bywyd neu oruchwyliwr pwll nofio yn bresennol, dylech sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch epilepsi.
  • Os nad oes unrhyw achubwr bywyd cymwysedig yn bresennol, peidiwch â nofio’n ddyfnach nag uchder ysgwyddau’r cydymaith sy’n nofio gyda chi. 
  • Sicrhewch fod eich cydymaith yn gwybod beth i’w wneud os ydych yn cael trawiad a’i fod yn ddigon cryf i’ch helpu chi. (Gweler sut i ymdrin â thrawiad yn y dŵr isod.)
  • Dylech ymarfer gyda’ch cydymaith beth i’w wneud os ydych yn cael trawiad. Bydd hyn yn cynyddu eich hyder chi a’u hyder hwy.
  • Gallech ofyn i achubwr bywyd ddangos i chi sut i ymdrin â thrawiad sy’n digwydd yn y dŵr.                                                                                   
  • Peidiwch â nofio os nad ydych yn teimlo’n dda.
  • Dylech osgoi sefyllfaoedd gorbrysur, gan y gallai fod yn anodd i eraill sylwi arnoch os ydych yn cael trawiad.

Sut i ymdrin â thrawiad yn y dŵr

Trawiadau tonig-clonig – canllawiau sylfaenol

  • O’r tu ôl, dylech godi pen yr unigolyn fel ei fod allan o’r dŵr.
  • Os yw’n bosibl, ewch â’r unigolyn i ddŵr bas, a dal eu pen uwchben y dŵr.
  • Peidiwch ag atal eu symudiadau na gosod unrhyw beth yn eu ceg.
  • Wedi i’r symudiadau ysgytio ddod i ben, dylech fynd â hwy i dir sych.
  • Dylech eu rhoi ar eu hochr i ddod drosti.
  • Arhoswch gyda hwy hyd nes iddynt deimlo’n well.

Absenoldeb a thrawiadau rhannol – canllawiau sylfaenol

Dylech amddiffyn yr unigolyn o berygl, er enghraifft drwy eu harwain i ffwrdd o ddŵr dwfn neu drwy ddal eu pen uwchben y dŵr. Pan fyddant yn dod drosti, gwiriwch a oes angen iddynt adael y dŵr gan y gallent fod wedi drysu a gallai fod angen iddynt orffwys.

Pryd i ffonio am ambiwlans

  • Lle y tybiwch fod yr unigolyn wedi llyncu neu anadlu dŵr i mewn, hyd yn oed os yr ymddengys eu bod wedi dod drosti’n gyfan gwbl.
  • Lle bo’r unigolyn yn cael un trawiad ar ôl y llall heb adennill ymwybyddiaeth rhwng trawiadau.
  • Lle bo’r trawiad yn para’n hirach na’r hyn sy’n arferol i’r unigolyn, neu, os oes unrhyw amheuaeth, lle bo’r trawiad yn para mwy na phum munud.
  • Lle bo’r unigolyn wedi’i anafu.

Chwaraeon tîm (gan gynnwys pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd)

Ar y cyfan, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y dylech osgoi chwaraeon tîm, cyn belled â’ch bod yn dilyn y mesurau diogelu arferol. Gallai’r mesurau diogelu hyn gynnwys gwisgo offer amddiffyn y pen fel yr argymhellir gan y corff chwaraeon swyddogol. Os yw eich epilepsi wedi’i achosi gan anaf i’r pen, mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn eich cynghori i osgoi’r mathau hyn o chwaraeon.

Chwaraeon dŵr yn gyffredinol

Gall pobl ag epilepsi y mae eu trawiadau dan reolaeth fwynhau chwaraeon dŵr. Os yw eich trawiadau dan reolaeth yn gyfan gwbl, mae angen i chi ystyried y rhagofalon diogelwch cyffredinol ar gyfer y chwaraeon hynny. Os nad yw eich trawiadau dan reolaeth, mae angen i chi ystyried materion diogelwch yn ymwneud â’ch trawiadau. Er enghraifft:

  • Gall rhai mathau o chwaraeon dŵr fod yn beryglus a gallai fod yn ddoeth eu hosgoi. 
  • Peidiwch â gwneud chwaraeon dŵr ar eich pen eich hun. 
  • Gwnewch yn siwr bod rhywun gyda chi’n gwybod am eich epilepsi a sut i’ch achub os bydd angen.
  • Mae gwisgo siaced achub yn hanfodol os oes perygl o gwympo i’r dŵr. 

Yoga

Gall yoga fod yn fuddiol i rai pobl ag epilepsi. Dywedir ei fod yn helpu pobl i fod yn gytbwys o ran eu meddwl a’u corff a’i fod yn eu helpu i ymlacio. Mae yoga o fathau gwahanol ar gael. Dylai pobl ag epilepsi osgoi pranayama (rheoli anadlu) a trataka cryf (syllu ar wrthrych a myfyrio), gan y gallent arwain at drawiad. Mae rhagor o wybodaeth am yoga ar gael o British Wheel of Yoga (y corff llywodraethu sy’n cael ei gydnabod gan Sports England).

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgaredd na sonnir amdano yn y llyfryn hwn, cysylltwch ag Epilepsy Action. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Am y wybodaeth hon

Lluniwyd y cyhoeddiad hwn gan Epilepsi Action ar y cyd â Phrifysgol Lerpwl. Cafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol gan yr Athro Gus Baker, Amy J Hothersall a Jenna E Mallows a’i ddiweddaru gan yr Athro Gus Banker gydag arweiniad a chyfraniad gan bobl sy’n byw ag epilepsi.

Diolch

Hoffai Epilepsi Action ddiolch i Alison Hyslop, Sapphire Nyrs Arbenigol, Ysbyty Cyffredinol Milton Keynes, am ei chyfraniad i’r wybodaeth hon.

Datgeliad

Nid yw buddiannau Alison Hyslop yn gwrthdaro.

Ymwadiad

Mae Epilepsy Action yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth yn ei gyhoeddiadau ond ni all fod yn atebol am unrhyw gamau gweithredu a gymerir yn seiliedig ar y wybodaeth hon.

Adborth

Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y daflen ffeithiau hon, byddem yn hynod falch o glywed gennych. Gallwch gysylltu â ni hefyd os hoffech wybod o ble y cawsom ein gwybodaeth.

Rhif y llyfryn: B014.02

Lluniwyd y llyfryn: Ionawr 2011

Dyddiad adolygu’r llyfryn:  Ionawr 2013

Am Epilepsy Action

I gael rhagor o wybodaeth am epilepsi, cysylltwch â ni yn unrhyw un o’r ffyrdd a ddisgrifir isod.

Epilepsy Helpline 

rhadffon 0808 800 5050

testun 07797 805 390

helpline@epilepsy.org.uk

www.epilepsy.org.uk/cymraeg

Epilepsy Action, New Anstey House, Gate Way Drive, Yeadon, Leeds LS19 7XY. 

Ffôn: 0113 210 8800. Ffacs: 0113 391 0300. 

Cwmni a gyfyngir gan warant (Rhif Cofrestru yn Lloegr 797997) Elusen Gofrestredig yn Lloegr (Rhif. 234343). 

© Hawlfraint Epilepsy Action. 

Event Date: 
Tuesday 20 January 2015 - 13:29

There are no comments yet. Be the first to comment...