We exist to improve the lives
of everyone affected by epilepsy

 

Epilepsi a lles (Welsh)

English

Mae lles yn ymwneud â theimlo’n dda a gweithredu’n effeithiol. Os oes gennych epilepsi, bydd gofalu am eich lles yn gallu’ch helpu chi i gael cyn lleied o trawiad â phosibl. Fe all hefyd wella sut yr ydych chi’n teimlo am gael trawiad. O ganlyniad, rydych chi’n fwy tebygol o deimlo’n well ac yn gweithredu’n dda yn eich bywyd bob dydd.

Gofalu am eich corff – gofalu am eich meddwl

Efallai y byddwch chi’n teimlo bod eich meddwl a’ch corff ar wahân, ond gall gofalu am eich iechyd corfforol gael effaith fawr ar eich lles meddwl..

Mae’r GIG yn cynnig cyngor i bawb am sut i ofalu am eu corff a’u meddwl.

  • Bwyta diet sy’n gytbwys ac yn iach
  • Ymarfer corff
  • Cyfyngu ar eich alcohol
  • Cynnal arfer cysgu da

Os byddwch chi’n dilyn y cyngor hwn, bydd o fudd i’ch iechyd corfforol a meddwl. Ymhellach, o ddilyn y cyngor fe allai’ch helpu chi i gael llai o trawiad. Dyma pam:

Bwyta diet sy’n gytbwys ac yn iach - dywed rhai pobl gydag epilepsi os ydynt yn anghofio bwyta pryd o fwyd, eu bod yn fwy tebygol o brofi trawiad.

Ymarfer corff – gall ymarfer corff eich helpu chi i deimlo dan lai o straen. Mae llawer o bobl gydag epilepsi yn teimlo os ydynt yn teimlo dan straen eu bod yn fwy tebygol o brofi trawiad.

Cyfyngwch ar faint o alcohol yr ydych chi’n yfed – nid yw yfed symiau bach neu gymedrol fel arfer yn cynyddu’r risg o brofi trawiad. Ond mae yfed cymedrol i drwm dros gyfnod byr o amser yn gallu’ch gwneud chi’n fwy tebygol o gael trawiad. Gall yfed gormodol hefyd wneud rhai meddyginiaethau epilepsi yn llai effeithiol.

Cynnal trefn cysgu da – ar gyfer rhai pobl gydag epilepsi, mae cwsg yn arbennig o bwysig. Gall patrymau cysgu afreolaidd, neu beidio â chael digon o gwsg o ansawdd da, wneud trawiad yn fwy tebygol.

Cymryd rheolaeth ar eich trawiad

Bydd cael y rheolaeth orau bosibl ar eich trawiad yn gwella pa mor dda yr ydych chi’n teimlo a sut yr ydych chi’n gweithredu o ddydd i ddydd. Felly, ynghyd â gofalu am eich iechyd yn gyffredinol, mae rhai pethau ychwanegol y gallwch eu gwneud.

Cymryd eich meddyginiaeth epilepsie

Cymryd eich meddyginiaeth yn ôl y presgripsiwn yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i gadw’ch trawiad o dan reolaeth. Gall colli dos gynyddu’n risg o brofi trawiad.

Dyma rai cynghorion defnyddiol ar gyfer cymryd eich meddyginiaeth:

  • Sicrhewch nad yw’ch cyflenwad meddyginiaeth epilepsi byth yn dod i ben
  • Gofynnwch i’ch arbenigwr epilepsi neu nyrs epilepsi o flaen llaw beth y dylech chi ei wneud os byddwch chi byth yn anghofio cymryd eich meddyginiaeth epilepsi
  • Peidiwch byth â rhoi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth epilepsi, neu wneud newidiadau, heb siarad â’r meddyg yn gyntaf

Dengys astudiaethau nad yw llawer o bobl gydag epilepsi yn cymryd eu meddyginiaeth yn rheolaidd. Ac nid yw llawer o bobl yn sylweddoli eu bod yn colli dosau.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cymryd eich meddyginiaeth, neu os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n colli dosau, fe allech chi:

  • Gyfrif faint o dabledi yr ydych chi eu hangen am bythefnos a’u rhoi mewn bocs. Rhowch nodyn i’ch atgoffa yn eich dyddiadur neu galendr mewn pythefnos. Ar y dyddiad hwnnw gwiriwch a oes unrhyw dabledi ar ôl yn y bocs i weld a ydych chi wedi colli unrhyw ddosau.
  • Gosodwch nodyn atgoffa ar eich ffôn i gymryd meddyginiaeth. Os oes gennych ffôn clyfar, fe allech chi lawrlwytho ap i’ch atgoffa i gymryd meddyginiaeth
  • Gofynnwch yn eich fferyllfa a ydynt yn gwerthu trefnwyr tabledi (rhywbeth a elwir yn ‘dosette box’). Mae’r rhain yn cadw’ch meddyginiaeth yn drefnus ac fe allai eich helpu chi i gymryd y rhai cywir ac yr amser cywir
  • Mynnwch flwch tabledi gyda larwm sy’n canu pan fydd hi’n amser i chi gymryd eich meddyginiaeth. Mae gan y Disabled Living Foundation fanylion cyflenwyr.
  • Ysgrifennwch gyfarwyddyd i’ch hun am ble y byddwch chi’n cymryd eich meddyginiaeth, pryd y byddwch chi’n ei gymryd a beth fyddwch chi’n ei wneud ar y pryd. Er enghraifft: byddaf yn cymryd fy nhabledi bore yn yr ystafell ymolchi, am 7am pan fyddaf i’n brwsio fy nannedd. Dengys ymchwil y gall ysgrifennu cyfarwyddyd fel hyn a’i ddarllen yn ôl i’ch hun o leiaf deirgwaith helpu i danio nodyn atgoffa ‘awtomatig’ yn eich cof

Adnabod ac osgoi eich sbardunau trawiad

Mae rhai pethau yn gwneud trawiad yn fwy tebygol i rai pobl gydag epilepsi. Fe elwir y rhain yn aml yn ‘sbardunau’. Dyma rai sbardunau cyffredin

  • Anghofio cymryd dosau o feddyginiaeth epilepsi
  • Ddim yn cael digon o gwsg
  • Teimlo dan straen
  • Yfed gormod o alcoholl

Mae rhai pobl gydag epilepsi hefyd yn dweud eu bod yn profi mwy o trawiad os ydynt yn colli prydau..

Gall cadw dyddiadur o’ch trawiad eich helpu chi hefyd i adnabod pethau a all sbarduno eich trawiad. Gwnewch nodyn o beth yr oeddech chi’n ei wneud neu sut yr oeddech chi’n teimlo cyn bob trawiad, i weld a allwch chi ganfod unrhyw batrymau..

Bydd osgoi’ch sbardunau yn gostwng y risg y byddwch chi’n profi trawiad.

Cael y driniaeth orau i’ch epilepsi

Dywed arweiniad y DU y dylech adolygu’ch triniaeth epilepsi o leiaf unwaith y flwyddyn. Gallai hyn fod gyda’ch Meddyg Teulu neu gydag arbenigwr epilepsi. Os ydych chi fel arfer yn gweld eich Meddyg Teulu am eich epilepsi, ond nad yw’ch trawiad dan reolaeth lawn, fe allech chi ofyn iddynt eich cyfeirio chi i weld arbenigwr.

Os yw’ch trawiad yn anodd iawn eu rheoli, gallai’ch arbenigwr eich cyfeirio chi at ganolfan epilepsi arbenigol. Mae arweiniad yn argymell eich bod chi yn cael eich cyfeirio at ganolfan arbenigol os ydych chi’n dal i brofi trawiad ar ôl rhoi cynnig ar ddwy feddyginiaeth neu fwy, neu ar ôl dwy flynedd. Bydd canolfan arbenigol yn edrych eto ar eich diagnosis a meddyginiaeth epilepsi, i sicrhau eich bod chi’n derbyn y driniaeth orau.

Os hoffech chi weld y wybodaeth hon gyda chyfeiriadau, ewch i adran gyfeirio Cyngor a Gwybodaeth ein gwefan. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Epilepsy Action rhadffôn ar 0808 800 5050.

Code: 
B154.02
Event Date: 
Thursday 11 January 2018 - 14:58

Epilepsy Action would like to thank Professor Markus Reuber, Professor of Clinical Neurology at the University of Sheffield and Honorary Consultant Neurologist at the Sheffield Teaching Hospitals NHS Foundation Trust for his help in producing this information.

Professor Reuber has declared no conflict of interest.

This information has been produced under the terms of The Information Standard.

  • Updated December 2016
    To be reviewed December 2019

There are no comments yet. Be the first to comment...

e-action newsletter

Subscribe to our e-action newsletter and stay informed

Subscribe to e-action newsletter feed